William John Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
chwaneg
Llinell 7:
Cymerai Parry ddiddordeb mawr yn hynt y chwarelwyr, a gwnaeth ei hun yn awdurdod ar agweddau economaidd y [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]]. Ef oedd prif ysgogydd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, ac apwyntiwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol i'r undeb. Yn ddiweddarach bu'n Llywydd yr undeb. Yn 1879 ymwelodd a'r [[Unol Daleithiau]] ar gais yr undeb i astudio'r diwydiant llechi yno. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am negodi cytundeb i ddiweddu anghydfod 1896-7 yn [[Chwarel y Penrhyn]]. Erbyn y streic fawr yn 1900-1903 nid oedd ganddo gysylltiad ffurfiol a'r undeb, ond cefnogodd y gweithwyr gyda llythyrau i'r wasg ac erthyglau. Arweiniodd un o'r rhain i achos [[enllib]] gael ei ddwyn yn ei erbyn gan [[George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2ail Farwn Penrhyn|Barwn Penrhyn]]. Cynhaliwyd yr achos yn [[Llundain]], a dyfarnwyd iawndal o £500 a chostau o rai miloedd o bunnau i Penrhyn. Roedd hyn yn bygwth torri Parry yn ariannol, ond gwnaed apêl ymhlith ei gefnogwyr, a chodwyd yr arian.
 
Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys ''Chwareli a chwarelwyr'' (1897). Roedd yn un o sylfaenwyr ''Y Werin'' ac yn olygydd iddi am rai blynyddoedd. Bu hefyd yn gadeirydd Cyngor Sir Gaernarfon. Ymhlith ei gyfeillion oedd y gwleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]] [[Tom Ellis]], [[Aelod Seneddol]] [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Sir Feirionydd|Meirionnydd]].
 
===Llyfryddiaeth===