Ffa Coffi Pawb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Ffurfiwyd Ffa Coffi Pawb ynghanol y 1980au gan Gruff Rhys a Rhodri Puw. Ymunodd Dewi Emlyn a Dafydd Ieuan yn darach. Buont yn recordio caneuon yng nghartref Rhodri Puw am gyfnod, ar offer stereo cartref. Wedi mynychu cyfarfodydd Pop Positif -
Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. Dalec Peilon oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar Recordiau Huw (label Huw Gwyn) ym 1988. Dilynwyd hon gan Clymhalio, a ryddhawyd ar Ankst ym 1991, a wedyn Hei Vidal ym 1992. Dros y cyfnod yma, datblygodd y grwp o ysgrifennu caneuon arborfol, nid yn anhebyg i Jesus and Mary Chain, i ysgrifennu caneuon pop gyda naws 70au.
Chwaraeodd y grwp eu gig olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, ym 1994. Cafodd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb "Ffa Coffi Pawb am byth" ei ryddhau ar label Placid Casual yn 2004.
|