Ffa Coffi Pawb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. Dalec Peilon oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar Recordiau Huw (label Huw Gwyn) ym 1988. Dilynwyd hon gan Clymhalio, a ryddhawyd ar Ankst ym 1991, a wedyn Hei Vidal ym 1992. Dros y cyfnod yma, datblygodd y grwp o ysgrifennu caneuon arborfol, nid yn anhebyg i Jesus and Mary Chain, i ysgrifennu caneuon pop gyda naws 70au.
Chwaraeodd y grwp eu gig olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, ym 1994. Cafodd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb "Ffa Coffi Pawb am byth" ei ryddhau ar label Placid Casual yn 2004.
Aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ymlaen i ffurfio'r Super Furry Animals. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda Psycho VII am gyfnod, a wedyn Gorky's Zygotic Mynci. Mae Dewi Emlyn yn gweithio gyda'r Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a sawl band arall. Mae Gruff Rhys yn rhyddhau ei record ''Testun eidalig''solo''Testun eidalig'' gyntaf - sydd wedi ei chynhyrchu gan Gorwel Owen - ym mis Ionawr 2005.