Ffa Coffi Pawb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Arwel Parry (sgwrs | cyfraniadau)
wicïo
Arwel Parry (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ffurfiwyd '''Ffa Coffi Pawb''' ynghanol y [[1980au]] gan [[Gruff Rhys]] a [[Rhodri Puw]]. Ymunodd [[Dewi Emlyn]] a [[Dafydd Ieuan]] yn <nowiki>diwedd</nowiki>arach.
 
Buont yn recordio caneuon yng nghartref Rhodri Puw am gyfnod, ar offer stereo cartref. Wedi mynychu cyfarfodydd Pop Positif - collective cerddorol a sefydlwyd ym [[Bangor|Mangor]] gan Rhys Mwyn - daethont i gysylltiad a Gorwel Owen, Recordiau Ofn. Rhyddhawyd fersiwn o'u can ''Octopws'' ar dap aml-gyfrannog Pop Positif. Arweiniodd y recordiad yma at ffrae gyda grwp lleol amlwg arall, ''Tynal Tywyll'', wedi i Nathan, gitarydd y grwp hwnw, ail-recordio rhan o 'Octopws'. Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. ''Dalec Peilon'' oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar Recordiau Huw (label [[Huw Gwyn]]) ym [[1988]]. Dilynwyd hon gan ''Clymhalio'', a ryddhawyd ar Ankst ym 1991, a wedyn ''Hei Vidal'' ym 1992.