Merthyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:53, 11 Mai 2007
- Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu Merthyr.
Merthyr (o'r Lladin martyr) yw un sy'n marw dros ei (h)egwyddorion, ei ffydd neu rhywbeth y mae'n credu ynddo. Yn wreiddiol defnyddid y gair mewn cyd-destun Cristnogol i ddisgrifio credadyn sy'n barod i ddioddef angau dros ei ffydd yn hytrach nag ymwrthod â hi. Mae'r gair heddiw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n dioddef angau yn enw crefyddau eraill, e.e. Bwdhaeth, neu yn enw argyhoeddiadau gwleidyddol a.y.y.b. Merthyroleg yw'r gair am astudio hanes merthyron.
Ystyron eraill
Ail ystyr 'merthyr' yn y Gymraeg yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Fe'i gwleir yn yr enwau lleoedd Merthyr Tudful a Merthyr Mawr.