A55: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Roedd y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniad]] wedi adeiladu [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd ar draws Gogledd Cymru]] er mwyn cysylltu eu [[Caerau Rhufeinig Cymru|caerau]] yng Nghaer (''[[Deva]]'') a [[Caernarfon|Chaernarfon]] (''[[Segontiwm]]'') - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd y Penmaen-bach a Phen-y-clip ym [[Penmaenmawr|Mhenmaenmawr]] wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]] yn rhoi llwybr mwy diogel at [[Eryri]].
 
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda [[Thomas Telford]]. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r [[A5]] o [[Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]], gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o [[Conwy|Gonwy]] ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r [[Afon Conwy]]. Adeiladodd Telford [[Pont Grog Conwy]], a agorwyd yn [[1826]], fel y bont cyntafgyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i [[Bangor|Fangor]] trwy [[Conwy (tref)|Conwy]].
 
Yn y [[1930au]], gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd y Penmaen-bach (un twnel) a Phen-y-clip (dau dwnel a phont dros rhan o'r môr), ym Mhenmaenmawr. Yn [[1959]], agorwyd pont newydd ar draws [[Afon Conwy]] wrth ymyl y bont grog.