Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Carnedd"

No change in size ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(gywiro, ddolen)
BNo edit summary
 
Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o [[Oes yr Efydd]], a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae [[Bryn Cader Faner]] a'r tair carnedd fawr ar gopa [[Foel Drygarn]]. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu cyrff dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod [[Y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeinig]] ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr. Y garnedd fwyaf yng Nghymru - a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain - yw'r [[Y Gop|Gop]].
Ceir "carnedd" neu "carngarn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft [[Carnedd Llywelyn]] a [[Carnedd Dafydd]], a roddodd ei enw i fynyddoedd y [[Carneddau]]. Yr hen enw ar fynydd [[Elidir Fawr]] oedd "Carnedd Elidir".
 
==Mathau o garneddi==