Valentinian III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Flavius Placidius Valentinianus''' ([[2 Gorffennaf]], [[419]] - [[16 Mawrth]], [[455]]), a adnabyddir hefyd fel '''Valentinian III''', yn Ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin ([[425]]-[[455]]).
 
Ganed Valentinian yn [[Ravenna]], prifddinas yr ymerodraeth yn y gorllewin ar y pryd, yn unig fab i'r ymerawdwr [[Constantius III]] a [[Galla Placidia]], merch yr ymerawdwr [[Theodosius I]]. Wedi marwolaeth ei dad yn [[421]], ffraeodd ei fam a'i brawd, yr ymerawdwr [[Honorius (ymerawdwr)|Honorius]], ac aeth ag ef a'i chwaer i [[Caergystennin|Gaergystennin]] at [[Theodosius II]].
 
Bu farw Honorius yn [[423]], a chipiwyd grym yn Rhufain gan [[Joannes]]. Enwyd Valentinian fel ''Cesar'' gan Theodosius, a threfnodd iddo briodi ei ferch [[Licinia Eudoxia]]. Yn [[425]], wedi i Joannes gael ei orchfygu, sefydlwyd Valentinian yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, yn chwech oed.