Hen Wyddeleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 22 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q35308 (translate me)
man gywiriadau, replaced: ffynonell → ffynhonnell using AWB
Llinell 1:
'''Hen Wyddeleg''' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r iaith [[Wyddeleg]] yn ei ffurf gynharaf. Datblygodd Hen Wyddeleg fel cangheniaith o'r [[Goideleg|Oideleg]] (''Goidelg''), yn yr un modd ag y datblygodd yr iaith [[Gymraeg]] (a'r [[Gernyweg]]) allan o'r [[Brythoneg|Frythoneg]] (chwaer gangen [[Celteg|Gelteg]] yr Oideleg). Mae'n anodd pennu dyddiad pendant i'w dechreuad, ond erbyn y [[5ed ganrif|5ed]] a'r [[6ed ganrif]] gwelwn y Wyddeleg yn cael ei hysgrifennu yn yr [[arysgrif]]au [[Ogham]] sydd ar gael ar feini yn [[Iwerddon]] a [[Cymru|Chymru]]. Gelwir yr enghraifftiau cynnar prin yn [[Gwyddeleg Cynnar|Wyddeleg Cynnar]]. Troes Gwyddeleg Cynnar yn Hen Wyddeleg gydag amser. Parhaodd fel Hen Wyddeleg tan ddiwedd y [[9fed ganrif]] pan droes yn raddol yn [[Gwyddeleg Canol|Wyddeleg Canol]].
 
Yn ogystal â'r meini Ogham, ein prif ffynonellauffynhonnellau am yr Hen Wyddeleg yw [[glos]]au cynnar (geiriau neu frawddegau yn y Wyddeleg ar ymyl [[llawysgrif]]au yn esbonio, cyfieithu neu egluro testun [[Lladin]]). Fel mae'n digwydd, mae'r mwyafrif o'r glosau hyn i'w cael mewn llawysgrifau cyfandirol a ysgrifennwyd yng nghanolfannau dysg [[gorllewin Ewrop]] yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]]; mae'r llawysgrifau pwysicaf yn gysylltiedig â mynachlogydd [[Würzburg]], [[Milan]], [[Turin]] a [[St. Gall]] ac yn brawf o bresenoldeb mynachod ac ysgolheigion o Iwerddon yn y sefydliadau hynny.
 
== Rhai enghreifftiau o Hen Wyddeleg ==