Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 43 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q37560 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 4:
 
== Hanes ==
Gan nad ysgrifennid iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]]; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaed gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaredid Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn datgelu manylion am iaith lafar yr awdur. <ref>Charles H. Grandgent, [http://books.google.com/books?id=_OzEl6nLsGIC&pg=PA5&lpg=PR4 ''An Introduction to Vulgar Latin''] (Heath & Co., 1907)</ref>
 
Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, [[Lladin Canol]], oblegid pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion [[Lladin Clasurol]]. Defnyddiid ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y [[Canol Oesoedd]] hyd y [[Dadeni]].
 
Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], gan ddatblygu’n raddol i mewn i [[Ffrangeg]], [[Catalaneg]], [[Eidaleg]], [[Sbaeneg]], [[Portiwgaleg]], a dwsinau o ieithoedd eraill. <ref>[http://www.ethnologue.com/show_family.asp?subid=90057 Ethologue Latin Family]</ref> Er taw Lladin oedd yr iaith swyddogol yn y ardaloedd hyn, fe siaredid Lladin Llafar gan y werin-bobl nes i’r ffurfiau lleol newydd ymrannu’n ddigonol o Ladin gan ddod i’r golwg fel ieithoedd ar wahân. Serch y gwahaniaeth cynyddol rhwng Lladin Llafar ac ysgrifennedig, nid oedd y tafodieithoedd yn annealladwy o’i gilydd nes yr [[8fed ganrif]].
 
Fe wyddwn fod y tafodieithoedd Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y [[9fed ganrif]]. Isod gweler llw o [[842]] a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:
Llinell 62:
 
'''Lladin Clasurol:'''
:''Marcus patrī librum dat.'' "Rhôdd Marcus lyfr i’w dad."
 
'''Lladin Llafar:'''
Llinell 70:
 
'''Lladin Clasurol:'''
:''Marcus mihi librum patris dat.'' "Rhôdd Marcus lyfr ei dad imi"
 
'''Lladin Llafar:'''