Pasbort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 66 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q43812 (translate me)
→‎Hanes: man gywiriadau using AWB
Llinell 20:
Ymledaenodd y [[rheilffordd|rheilffyrdd]] ar draws Ewrop yn ystod canol yr [[19eg ganrif]], gan acosi i system basbort Ewropeaidd yr 19eg ganrif cynnar fethu. Daeth yn anodd arofalu cyfreithiau pasportiau oherwydd cyflymder y trenau a'r nifer o deithwyr a oedd yn croesi'r ffiniau. Yr ymateb gyffredinol oedd i ymlacio anghenion pasportiau.<ref name="PASSCanada">{{dyf gwe| teitl= History of Passports| cyhoeddwr=Passport Canada| url=http://www.passport.gc.ca/pptc/hist.aspx?lang=eng}}</ref> Yn ystod rhan olaf yr 19eg ganrif a'r cyfnod cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], ar y cyfan, nid oedd angen pasport i deithio drwy Ewrop, a roedd croesi'r ffiniau yn gyharol syml. Felly, ychydig iawn o bobl oedd yn berchen ar basbort. Ond, paraodd yr [[Ymerodraeth Otoman]] ac [[Ymerodraeth Rwsia]] i ofyn am basbort ar gyfer teithio rhyngwaldol, yn ogystal a system [[pasport mewnol]] ar gyfer rheoli teithio o fewn eu ffiniau.
 
Roedd pasportiau cynnar yn cynnwys disgrifiad o'r deilydd. Dechreuwyd atodi [[ffotograff|ffotograffau]]au yn ystod degawdau cynnar yr [[20fed ganrif]], pan dechreuodd ffotograffiaeth ddod yn fwy eang gyffredin.
 
Yng ngwledydd Ewrop yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], roedd gofyn am basbort am resymau diogelwch (i gadw [[ysbïwr|ysbiwyr]] allan) ac i reoli [[allfudiad]] dinasyddion a oedd â sgiliau defnyddiol er mwyn cadw potensial y gweithlu. Cedwyd y rheolau wedi i'r rhyfel ddod i ben, gan ddod yn ymarfer safonol, ond nid oedd heb ymryson. Bu twristiaid Prydeinig yr [[1920au]] yn cwyno, yn enwedig am y ffortograffau a'r disgrifiadau a oedd wedi eu atodi, gan y credont ei fod yn ddad-ddyneiddio brwnt.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Michael Marrus| teitl=The Unwanted: European Refugees in the Twentieth Century| cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen| blwyddyn=1985| tud=92}}</ref>