Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 50 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q169997 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Map_darjeelingMap darjeeling.png|200px|bawd|Lleoliad Darjeeling yn India.]]
[[Brynfa]] (''hill-station'') 7,000' uwch lefel y môr, poblogaeth tua 75,000, wrth droed yr [[Himalaya]] ym mryniau [[Gorllewin Bengal]], gogledd-ddwyrain [[India]] yw '''Darjeeling'''; mae'n golygu hefyd hefyd y rhanbarth o'r un enw, ''Darjeeling District'', sy'n cynnwys tref Darjeeling ei hun, [[Kalimpong]], [[Kurseong]] a [[Siliguri]], gyda phoblogaeth o tua 1.4 miliwn (a'r mwyafrif yn byw yn Siliguri, wrth droed y bryniau).
 
Llinell 6:
== Hanes Darjeeling ==
=== Y cefndir ===
[[Delwedd:Tiger_HillTiger Hill.JPG|250px|bawd|Golygfa dros '''Darjeeling''' gyda [[Kanchenjunga]] yn y cefndir, o Tiger Hill]]
Hyd at ddechrau’r [[18fed ganrif]] yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o [[Sikkim]]. Yn [[1706]] collodd Sikkim ardal Kalimpong i [[Bhutan]] ac yn [[1780]] cipiodd rheolwyr Gorkhaidd [[Nepal]] weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y [[Gorkha|Gorkhiaid]] a’r [[British East India Company]] a reolai [[Bengal]] ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y [[Prydain|Prydeinwyr]] yn gwaranti [[sofraniaeth]] Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.
 
Llinell 22:
 
== Y "Trên Tegan" ==
[[Delwedd:DHR_780_on_Batasia_Loop_05DHR 780 on Batasia Loop 05-02-21_0821 08.jpeg|250px|bawd|Dolen Batasia]]
Mae'r trên bach sy'n cysylltu New Jalpaiguri a Darjeeling yn un o'r [[rheilffyrdd]] lled cyfyng enwocaf yn y byd. Fe'i adeiladwyd yn bennaf i gludo cynnyrch y gerddi te i Galcutta er mwyn ei allforio i Brydain ac [[Ewrop]] a hefyd i gael offer mecanyddol trwm i fyny i'r bryniau. Dechreuwyd y gwaith ar y rheilffordd yn [[1879]] ac yn [[1881]] stemiodd y trên bach cyntaf i mewn i orsaf Darjeeling. Roedd y gwaith yn golygu creu nifer fawr o ddoleni tynn a phontydd ac yn sialens aruthrol i'r peirianwyr, yn arbennig Dolen Batasia, 2 milltir o Darjeeling, lle mae'r trên yn gorfod rhedeg yn ei ôl fesul rhan o'r trac igam-ogam er mwyn ei ddringo. Erbyn heddiw mae'r rheilffordd a'i injans hynafol yn un o brif atyniadau twristaidd gogledd-ddwyrain India ond yn ogystal mae'n dal i wneud ei waith ymarferol yn cludo te i lawr i'r gwastadoedd a nwyddau i fyny i'r bryniau.
 
Llinell 31:
* H.H. Risley (gol.), ''The Gazetteer of Sikhim'' (1928; adargraffiad Delhi, 1999). ISBN 81-86142-50-9
* Jahar Sen, ''Darjeeling[:] A Favoured Retreat'' (Delhi Newydd, 1989). ISBN 81-85182-15-9
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|en}}
 
[[Categori:Dinasoedd India]]
Llinell 37 ⟶ 39:
[[Categori:Brynfeydd India]]
[[Categori:Himalaya]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|en}}