Mynydda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Lleihawyd o 7 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B (Bot: Migrating 56 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q36908 (translate me))
 
==Rhai cerrig milltir yn hanes mynydda==
* Tua 5,300 o flynyddoedd yn ôl dringodd dyn, sydd wedi cael ei enwi'n Ötzi gan archaeolegwyr, i tua 3,000 m i fyny yn yr [[Alpau]]. Cafodd hyd i'w gweddillion mewn [[rhewlif]].
* Dringodd yr [[Ymerodraeth Rufeinig|ymerodr Rhufeinig]] [[Hadrian]] [[Etna]] (3,350 m) i weld y wawr o'r copa yn [[121]].
* Dringodd [[Pedr III o Aragon]] fynydd [[Canigou]] yn y [[Pyrenees]] yn chwarter olaf y [[13eg ganrif]].
* Dywedir fod [[Popocatépetl]] (5,426 m, [[Mexico]]) wedi cael ei ddringo yn [[1289]] gan aelodau o lwyth lleol y Tecanuapiaid.
* Mae'r bardd Eidaleg [[Petrarch]] yn honni ei fod wedi dringo [[Mont Ventoux]] (1,909m) ar [[26 Ebrill]], [[1336]], gyda'i frawd a dau was.
* Y [[Rochemelon]] (3,538 m) yn yr Alpau Eidalaidd yn cael ei ddringo yn [[1358]].
* Honnir bod trigolion yr [[Andes]] yn dringo rhai o'r copaon yn y cyfnod [[1400]]-[[1500au]].
* Yn [[1492]] dringwyd [[Mont Aiguille]] ar orchymyn [[Siarl VIII o Ffrainc]].
* [[Leonardo da Vinci]] yn dringo maes eira Val Sesia i wneud gwaith gwyddonol.
* Yn [[1642]] mae [[Darby Field]] yn dringo [[Mynydd Washington]] (Agiocochook) yn [[New Hampshire]] (gogledd-ddwyrain [[UDA]] heddiw).
* Ar ddiwedd yr [[17eg ganrif]] mae [[Konrad Gesner]] a [[Josias Simler]] o [[Zurich]] yn ymweld â'r Alpau ac yn dechrau dringo i'r copaon yn gyson. Defnyddir bwyeill rhew cyntefig a rhaffau am y tro cyntaf.
* Yn [[1741]] mae [[Richard Pococke]] a [[William Windham]] yn ymweld â [[Chamonix]], gan gychwyn ffasiwn am ymweld â rhewlifoedd.
* Yn [[1744]] dringir [[Mynydd Titus]] yn yr Alpau.
* Yn ystod y [[1950au]], dringwyd y pob copa 8000m namyn dau, gan gychwyn gyda [[Annapurna]] yn [[1950]] gan [[Maurice Herzog]] a [[Louis Lachenal]]. Cafodd fynydd uchaf y byd, [[Mynydd Everest]] (8,848 m) ei ddringo ar [[29 Mai]], [[1953]] gan Syr [[Edmund Hillary]] a [[Tenzing Norgay]], o'r ichr ddeheuol yn [[Nepal]]. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach dringodd [[Hermann Buhl]] [[Nanga Parbat]] (8,125 m), ar ben ei hun, yr unig enghraifft o gopa 8000m i gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynyddwr unigol. Dringwyd [[K2]] (8,611 m), mynydd ail-uchaf y byd, yn [[1954]]. Yn [[1964]], esgynwyd y copa 8000m olaf, [[Shishapangma]] (8,013 m).
782,887

golygiad