Gwlff Tiwnis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 17 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1143820 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Gulf_of_Tunis_NASAGulf of Tunis NASA.jpg|300px|bawd|Delwedd lloeren NASA o '''Gwlff Tunis''']]
[[Bae]] mawr agored yn ne'r [[Môr Canoldir]] ar arfordir gogleddol [[Tunisia]] yw '''Gwlff Tunis'''. Mae'n ymestyn o [[Penrhyn Carthage|Benrhyn Carthage]] (''Cap Carthage'': hefyd ''Cap Farina'') yn y gorllewin i bwynt gogleddol [[Cap Bon]] yn y dwyrain, pellter o tua 75  km. Ers dyddiau'r [[Ffenicia]]id a'r [[Rhufeiniaid]] mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys [[Sisili]] a [[Sardinia]] ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy [[Culfor Sisili|Gulfor Sisili]].
 
Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines [[Elissa]] (Dido yn ''Eneid'' [[Fferyllt]]) a'i llynges o ffoaduriaid o [[Tyros]] (''Tyre'' - mam-ddinas y Carthageniaid yn [[Ffenicia]]) tua 700 CC a sefydlu dinas [[Carthage]]. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr [[Henfyd]].