Môr Arabia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 81 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q58705 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 4:
Rhanbarth o [[Cefnfor India|Gefnfor India]] a ffinir i'r dwyrain gan [[India]], i'r gogledd gan [[Iran]] a [[Pacistan]], i'r gorllewin gan [[Arabia]], ac i'r de gan linell ddychymygol rhwng [[Penrhyn Guardafui]] yn [[Somalia]] ([[Puntland]]), ynysoedd [[Socotra]], a [[Penrhyn Comorin]] (Kanyakumari) yn India yw '''Môr Arabia''' ([[Arabeg]]: بحر العرب ; ''Bahr al-'Arab'').
 
Ei led mwyaf yw tua 2400  km, a'i ddyfnder mwyaf yw tua 4652 medr, ger arfordir deheuol [[India]]. [[Afon Indus]] yw'r afon fwyaf sy'n llifo i'r môr hwn. Gelwir arfordir canolbarth India ar y môr hwn yn [[arfordir Konkan]], a'r arfordir yn ne India yn [[arfordir Malabar]]. Yn y gogledd gorwedd tir anial [[Makran]], yn [[Iran]] a Pacistan, ar y môr.
 
Mae gan Môr Arabia ddwy fraich fawr, sef [[Gwlff Aden]] yn y de-orllewin, sy'n cysylltu i'r [[Môr Coch]] trwy gulfor [[Bab al Mandab]], a [[Gwlff Oman]] yn y gogledd-orllewin, sy'n ei gysylltu â [[Gwlff Persia]]. Yn ogystal ceir [[Gwlff Cambay]] a [[Gwlff Kutch]] ar arfordir [[isgyfandir India]]. Ychydig o ynysoedd a geir yn y môr. Maent yn cynnwys [[Socotra]] oddi ar [[Corn Affrica|Gorn Affrica]] ac ynysoedd [[Lakshadweep]], oddi ar arfordir India.