Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Timor"

Ychwanegwyd 5 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
man gywiriadau using AWB
B (Bot: Migrating 60 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q83067 (translate me))
(man gywiriadau using AWB)
Mae '''Timor''' yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Mae rhan ddwyreiniol yr ynys yn wladwriaeth annibynnol [[Dwyrain Timor]], tra mae'r rhan orllewinol yn rhan o [[Indonesia]] dan yr enw [[Gorllewin Timor]].
 
Daw'r enw o ''timur'', "dwyrain" mewn [[Malayeg]]; mae'r ynys yn un o'r rhai mwyaf dwyreiniol o'r gadwyn o ynysoedd. Mae'n ynys weddol fawr, 11,883 milltir sgwâr (30,777  km²). Mae [[Awstralia]] i'r de o'r ynys, [[Sulawesi]] a [[Flores (Indonesia)|Flores]] i'r gogledd-orllewin a [[Sumba]] i'r gorllewin. I'r gogledd-ddwyrain mae [[Ynysoedd Barat Daya]], yn cynnwys [[Wetar]].
 
Roedd rhan orllewinol yr ynes yn rhan o ymerodraeth [[yr Iseldiroedd]] o ddechrau'r [[19eg ganrif]] hyd [[1949]] pan ddaeth yn rhan o Indonesia. Roedd dwrain yr ynys yn eiddo i [[Portiwgal]] o [[1596]] hyd [[1975]]. Yn 1975 meddiannwyd y rhan ddwyreiniol hefyd gan Indonesia. Wedi ymladd hir a gwaedlyd rhwng y mudiad cenedlaethol a byddin Indonesia, cynhaliwyd [[refferendwm]] yn [[1999]], pan bleidleisiodd poblogaeth dwyrain Timor dros annibyniaeth. Daeth Dwyrain Timor yn annibynnol yn [[2002]].
418,588

golygiad