Patmos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 40 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q190053 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Patmos01.JPG|250px|bawd|Porthladd [[Skala]] ar ynys '''Patmos''']]
'''Patmos''' ([[Groeg_Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Πάτμος''; [[Eidaleg]]: ''Patmo'') yw'r fwyaf gogleddol o [[ynys]]oedd y [[Dodecanese]], [[Gwlad Groeg]]. Mae'n gorwedd ym [[Môr Aegea]] oddi ar arfordir de-orllewin [[Twrci]]. Ynys fechan ydyw (15 milltir sgwâr) ond mae'r baeau niferus a'i siâp afreolaidd yn ffurfio arfordir hir. Mae'r pridd yn folcanig. Fe'i rhennir yn dair rhan gyda dau isthmws o dir yn eu cysylltu yn y canol. Ar un o'r gyddfau o dir hyn saif y brif ddinas a phorthladd [[Skala]], safle dinas hynafol. I'r de mae tref [[Patmos (tref)|Patmos]] a gysylltir â [[Ioan|Sant Ioan]], awdur traddodiadol ''[[Datguddiad Ioan|Llyfr y Datguddiad]]'' yn y [[Beibl]].
 
Cyfeirir at Batmos yng ngwaith [[Thucydides]], [[Strabo]] a [[Pliny]]. [[Doriaid]] oedd y trigolion cynharaf ac yna daeth [[Ioniaid]] i ymsefydlu yno. Arferai'r [[Rhufeiniaid]] alltudio carcharorion gwleidyddol iddi. Un o'r rhain oedd Sant Ioan, a alltudiwyd i'r ynys yn [[95]] yn ystod teyrnasiad [[Domitian]]. Am ganrifoedd bu'n ganolfan i forladron. Yn [[1088]] sefydlwyd [[mynachlog]] er anrhydedd Sant Ioan yn nhref Patmos; mae'n un o'r prif atyniadau twristaidd heddiw. Yn [[1207]] cipiwyd yr ynys o ddwylo'r [[Ymerodraeth Fysantaidd]] gan [[Fenis]]. Daeth yn rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn [[1537]]. Fel yn achos gweddill y Dodecanese, ni ddaeth yn rhan o'r Wlad Groeg fodern tan ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]].