Genedigaeth Gwener: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 35 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q151047 (translate me)
man gywiriadau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Sandro Botticelli - La nascita di Venere - Google Art Project - edited.jpg|300px|bawd|''Genedigaeth Gwener'']]
Paentiad tempera ar gynfas gan [[Sandro Botticelli]] (1445-1510) yw '''''Genedigaeth Gwener''''' ([[Eidaleg]]: ''La nascita di Venere''). Cafodd ei greu gan Botticelli ar gyfer ei noddwr [[Lorenzo de' Medici]] yn 1485.<ref name="Deimling, Barbara 2000">Deimling, Barbara. ''Sandro Botticelli''. 2000. Taschen, Art & Art Instruction, ISBN 3822859923, tud. 95.</ref> Mae i'w cael yn [[Oriel Uffizi]] (''Galleria degli Uffizi'') yn [[Fflorens]], [[yr Eidal]] ac mae'n un o'r gweithiau celf mwyaf adnabyddus yn y byd.
 
Pwnc y darlun yw genedigaeth y dduwies [[Gwener (duwies)|Gwener]] ([[Aphrodite]]) o'r môr yng [[Cyprus|Nghyprus]] - ynys y dduwies. Mae'n adlewyrchu diddordeb [[Dyneiddiaeth|dyneiddwyr]] y [[Dadeni Dysg]] ym mytholeg a diwylliant [[yr Henfyd]]. Mae'r darlun alegorïaidd yn cynrychioli cyflwyno harddwch i'r byd. Daw Gwener o'r môr mewn cawod o rosynnau ar gragen a yrrir gan dduwiau'r awyr. Wrth iddi baratoi i roi ei throed ar y lan mae [[nymff]] yn ymestyn mantell borffor iddi (mae porffor yn lliw a gysylltir â thras uchel a brenhiniaeth fel yn achos "porffor ymerodrol" [[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerawdwyr Rhufain]]).<ref>E. H. Gombrich, ''The Story of Art'' (Phaidon, 1951), tud. 192.</ref> Mae'r cynfas yn mesur 172.5 × 278.5 &nbsp;cm (67.91 × 109.65 modfedd).<ref> name="Deimling, Barbara. ''Sandro Botticelli''. 2000. Taschen, Art & Art Instruction, ISBN 3822859923, tud. 95.<"/ref>
 
Gwyddom mai [[Simonetta Vespucci]] (1453-1476), un o ferched enwocaf y cyfnod yn yr Eidal, oedd y model sy'n portreadu Gwener.