[[Actor]] a [[cynhyrchydd|chynhyrchydd ffilm]] [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] yw '''Walter Bruce Willis''' (ganed [[19 Mawrth]] [[1955]]). Dechreuodd ei yrfa ar y teledu yn ystod y [[1980au]] ac ers hynny mae ef wedi parhau i weithio ar y teledu ac mewn ffilmiau. Un o'i rôlau mwyaf poblogaidd oedd fel John McClane yn y gyfres ffilmiau ''[[Die Hard (cyfres ffilm)|Die Hard]]'', a fu'n llwyddiant masnachol a beirniadol. Mae Willis wedi rhyddhau sawl albwm ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu. Ymddangosodd hefyd mewn dros trigain o ffilmiau, gan gynnwys ''[[Pulp Fiction (ffilm)|Pulp Fiction]], [[Sin City (ffilm)|Sin City]], [[12 Monkeys]], [[Armageddon (ffilm)|Armageddon]]'', a ''[[The Sixth Sense]]''.
Bu'n briod â'r actores [[Demi Moore]] o [[1987]] tan [[2000]] ac mae bellach yn briod â'r actores a'r [[model]] [[Lloegr|Seisnig]], [[Emma Heming]].