Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 47 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q170599 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 2:
 
Band roc o Sheffield ydy'r '''Arctic Monkeys'''. Yr aelodau yw Alex Turner (Prif Ganwr a Gitar), Jamie Cook (Prif Gitar), Nick O'Malley (Gitar Bâs - aelod newydd, gan fod gitarydd bâs gwreiddiol y band, Andy Nicholson, wedi penderfynu gadael), a Matt Helder (Drymiau). Cafodd ''[[MySpace]]'' ddylanwad enfawr ar eu llwyddiant cynnar, ac aeth eu sengl cyntaf, 'I Bet That You Look Good On The Dancefloor' i rif 1 yn siartiau Prydain. Daeth llwyddiant pellach yn fuan wedyn, ar ôl i'w halbwm cyntaf, 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not', gyrraedd rhif 1 yn y Deyrnas Unedig, lle torrodd y record am y nifer a werthwyd yn yr wythnos gyntaf o werthiant. Enillodd yr albwm wobr ''Mercury Music'' yn 2006, fel yr albwm gorau'r flwyddyn. Hefyd enillodd yr albwm yn y categori 'Albwm Gorau' a'r band yn ennill y teitl 'Band Prydeinig Gorau' yn seremoni gwobrwyo'r ''BRITS'' yn 2007. Yn 2007 hefyd, rhyddhaodd y band eu hail albwm, 'Favourite Worst Nightmare', a gafodd ei enwebu am wobr ''Mercury Music'' yn 2007. Perfformiodd y band fel un o'r prif fandiau yng Ngwyl byd-enwog ''[[Glastonbury]]'' ym mis Mehefin 2007. Enillodd yr albwm y wobr am yr albwm gorau, ynghyd â'r wobr am y band gorau yng Ngwobrau'r ''BRITs'' yn 2008 am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyfeirir at y band yn aml fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y funud ac mae gwerthiant eu recordiau a'r gwobrwyon maent wedi ennill yn adlewyrchiad teg o hyn.
 
 
== Ymddangosiadau Ar y Teledu ==
Llinell 27 ⟶ 26:
 
Mae poblogrwydd yr Arctic Monkeys yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wedi arwain at wleidyddion a newyddiadurwyr yn cyfeirio at y band yn eu hareithiau a'u hysgrifennu. Ym mis Mai 2006, dywedodd [[Cynghellor]] y Trysorlys ar y pryd, [[Gordon Brown]], mewn cyfwelid gyda chylchgrawn New Woman ei fod yn gwrando arnynt yn ddyddiol gan honni ei bod yn " really wake you up in the morning", er mewn cyfweliad yn hwyrach ni fedrai enwi'r un o'u caneuon. Yn ddiweddarach, adroddwyd fod Brown wedi cael ei gam-ddyfynnu. Mewn cyfweliadau ers hynny, mae Brown wedi cadarnhau nad yw'n eu hoffi mewn gwirionedd gan ddweud mai'r unig beth a ddywedodd yw y byddai'r band yn llwyddo i ddeffro person yn y bore. Parhaodd i gyfeirio at hyn yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur pan yn sôn am y perygl o gynhesu byd-eang, gan ddweud ei fod yn "more interested in the future of the Arctic Circle than the future of the Arctic Monkeys". Cyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, Menzies Campbell, at y band hefyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni'n anghywir eu bod wedi gwerthu mwy o recordiau na [[The Beatles]], sylwad a arweiniodd at lawer o wawdio gan y cyfryngau. Mynegodd helders ac O'Malley eu amheuon am y cyngherddau Live Earth yn 2007 hefyd.
 
 
== Albymau ==