[[Mathemateg]]wr [[Almaen|Almaenig]]ig a ddaeth yn [[rhesymeg]]wr ac [[athronydd]] oedd '''Friedrich Ludwig Gottlob Frege''' ([[8 Tachwedd]] [[1848]] – [[26 Gorffennaf]] [[1925]]). Fe'i ystyrir yn un o sylfaenwyr rhesymeg fodern, a mawr oedd ei gyfraniad i sylfeini mathemateg. Fel athronydd, fe'i ystyrir yn un o gonglfeini [[athroniaeth ddadansoddol]], am ei waith ar athroniaeth iaith a mathemateg. Pan gyhoeddodd ei weithiau fodd bynnag, cafodd ei anwybyddu i raddau helaeth gan y byd deallusol, ond cyflwynodd [[Giuseppe Peano]] (1858–1932) a [[Bertrand Russell]] (1872–1970) ei waith i genhedlaethau diweddarach o resymegwyr ac athronwyr.