336 CC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 67 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q43431 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 6:
==Digwyddiadau==
* Yn dilyn priodas [[Philip II, brenin Macedon]] ag [[Cleopatra Eurydice o Facedon|Eurydice]], mae ei fab [[Alecsander Fawr|Alecsander]] a'i fam [[Olympias]] yn ffoi i [[Epirus]] am gyfnod, cyn cymodi a Philip a dychwelyd.
* Ym mhriodas ei ferch, [[Cleopatra o Facedon|Cleopatra]], i [[Alexander I, brenin Epirus]], llofruddir Philip gan aelod o'i warchodlu, [[Pausanias o Orestis]]. Lleddir Pausanias yn y fan
* Olynir Philip gan ei fab [[Alecsander Fawr|Alecsander]], fel Alecsander III. Mae mam Alecsander, Olympias, yn gorchymyn lladd Eurydice, ei merch fychan a'i hewythr, y cadfridog [[Attalus (cadfridog)|Attalus]].
* Alecsander yn gorchymyn dienyddio [[Amyntas IV, brenin Macedon|Amyntas IV]].
* Wedi ei sefydlu ei hun ar yr orsedd, mae Alecsander yn gorfodi dinas [[Thebai]] i ildio iddo, yma'n mynd ymlaen i ddinas [[Corinth]], lle penodir ef yn arweinydd y cynghrair yn erbyn [[Ymerodraeth Persia]] yn lle ei dad.
* Yn [[Ymerodraeth Persia]], mae'r brenin [[Artaxerxes IV, brenin Persia|Artaxerxes IV]] yn ceisio dod yn rhydd o ddylanwad y llywodraethwr [[Bagoas]], sy'n ei lofruddio. Mae Bagoas yn rhoi [[Darius III, brenin Persia|Darius III]] ar yr orsedd yn ei le.
* Pan geisia Darius ddod yn rhydd o ddylanwad Bagoas, mae Bagoas yn ceisio ei wenwyno, ond mae Darius yn darganfod y cynllwyn ac yn gorfodi Bagoas i yfed y gwenwyn ei hun.
 
 
==Genedigaethau==
 
 
==Marwolaethau==
* [[Philip II, brenin Macedon|Philip II]], brenin [[Macedon]]ia
* [[Artaxerxes IV, brenin Persia]]
* [[Bagoas]], Llywodraethwr [[Ymerodraeth Persia]]
* [[Amyntas IV, brenin Macedon|Amyntas IV]], hawlydd coron Macedon
 
 
[[Categori:336 CC]]