Triton (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 66 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3359 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 2:
 
'''Triton''' ydy'r seithfed a'r fwyaf o loerennau [[Neifion]].
*Cylchdro: 354,760  km o Neifion
*Tryfesur: 2700  km
*Cynhwysedd: 2.14e22 kg
 
Llinell 12:
Mae cylchdro Triton yn wrthdroadwy. Triton yw'r unig loeren fawr sy'n cylchdroi 'wysg ei gefn', dim ond lloerennau bach [[Iau (planed)|Iau]] ([[Ananke (lloeren|Ananke]], [[Carme (lloeren)|Carme]], [[Pasiphae (lloeren)|Pasiphae]] a [[Sinope (lloeren)|Sinope]]) a [[Phoebe (lloeren)|Phoebe]] (lloeren fach Sadwrn) sydd hefyd yn cylchio 'wysg ei gefn', pob un ohonynt yn llai na 1/10 tryfesur Triton. Am hynny rhaid i Driton wedi cael ei dal gan Neifion ar ôl dod o rywle arall, efallai o [[Gwregys Kuiper|Wregys Kuiper]]. O achos natur anarferol cylchdro Triton, mae rhyngweithiadau rhwng Neifion a Thriton yn dwyn egni ymaith oddi wrth Driton gan achosi iddi ostwng ei chylchdro. Rhywdro yn y dyfodol pell bydd Triton yn cael ei chwalu ac unai'n ffurfio modrwy neu yn syrthio i mewn i Neifion.
 
Oherwydd ei gogwyddiad mae pegynau a chyhydedd Triton yn wynebu'r [[Haul]] bob yn ail. Mae ganddi awyrgylch tenau o [[nitrogen]] gyda [[methan]]. Mae ganddi nudd denau sy'n ymestyn 5-10 5–10 km i fyny.
 
Mae tymheredd arwyneb Triton yn 34.5 K (-235 C), mor oer â [[Plwton|Phlwton]]. Mae hynny oherwydd ei [[albedo|halbedo]] uchel (.7 - .8) sy'n golygu fod ychydig iawn o olau haul yn cael ei sugno. Yn y fath oerni mae methan, nitrogen a [[carbon deuocsid|charbon deuocsid]] yn cael eu rhewi'n soled.