Titan (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 74 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2565 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:176394710_f1700b0ed9_m176394710 f1700b0ed9 m.jpg|bawd|200px|Titan]]
 
'''Titan''' yw pymthegfed lloeren [[Sadwrn (planed)|Sadwrn]], hyd y gwyddom.
 
* Cylchdro: 1,221,630  km oddi wrth Sadwrn
* Tryfesur: 5150  km
* Cynhwysedd: 1.35e23 kg
 
Llinell 13:
Ymddangosai Titan i fod y lloeren fwyaf o fewn [[Cysawd yr Haul]] ond mae ymchwil ddiweddar wedi dangos pa mor drwchus yw awyrgylch Titan a bod arwyneb solet y lloeren ychydig yn llai na [[Ganymede]]. Serch hynny mae tryfesur Titan yn fwy na thryfesur [[Mercher(planed)|Mercher]] ac yn fwy o lawer na [[Plwton|Phlwton]].
 
Un o brif amcanion taith y chwiliedydd [[Voyager 1]] oedd i astudio Titan. Daeth y chwiliedydd o fewn 4000  km o'i harwyneb a darganfod bod awyrgylch o gymylau trwchus oren gan y lloeren. Yn [[2004]] dechreuodd y cylchdroydd [[Cassini(chwiliedydd)|Cassini]] i anfon data am y lloeren yn ôl atom, ac ym mis Ionawr [[2005]] glaniodd y chwiliedydd [[Huygens(chwiliedydd)|Huygens]] ar y lloeren gan dynnu lluniau o arwyneb Titan.
 
Y mis Ionawr [[2005]] disgynnodd chwiliedydd Huygens yr [[ESA]] trwy atmosffer Titan a danfon yn ôl atom luniau manwl o fyd sydd yn barhaol dan orchudd ei gymylau oren trwchus. Gyda'r lluniau daw hefyd gwybodaeth am y rhyngweithiadau cemegol sy'n digwydd yno, a fydd yn rhoi argraff i wyddonwyr planedol o'r cemeg a ddigwyddodd ar y [[Ddaear]] gynfiotig gynt.
 
[[Delwedd:Huygens_surface_colorHuygens surface color.jpg|bawd|chwith|200px|Arwyneb Titan]]
 
Y mae'r chwiliedydd Huygens yn rhan o genhadaeth [[Cassini-Huygens]] i fforio Sadwrn a'i gylchau a lleuadau. Titan yw'r unig un o leuadau Cysawd yr Haul a chanddi atmosffer. Mae cemeg organig a gafodd ei ganfod yn yr atmosffer hwnnw wedi ennyn dychymyg gwyddonwyr planedol y byd i gyd.
Llinell 25:
Y mae atmosffer Titan yn fwy trwchus nag yw'n hatmosffer ni, ac wedi ei wneud allan o amrywiaeth o folecylau biocemegol, gan gynnwys methan, [[hydrogen]] a [[carbon|charbon]].
 
Mae Titan yn debyg o ran crynswth a chyfansoddiad i'r lloerennau Ganymede, [[Callisto]], [[Triton]] ac efallai Plwton, hynny ydy 50% iâ dŵr a 50% craig. yn ôl pob tebyg mae Titan yn cynnwys sawl haen wedi eu cyfansoddi o ffurfiau crisial gwahanol o iâ, gyda chalon greigiog tua 3400  km ei hyd. Gallai'r galon ddal i fod yn boeth. Er bod ganddi gyfansoddiad tebyg i'r lloeren Rhea a lloerennau eraill Sadwrn, mae hi'n ddwysach oherwydd ei bod mor fawr fel mae ei dwyster yn cywasgu ei thu mewn.
 
Titan yw'r unig lloeren o fewn Cysawd yr Haul a chanddi awyrgylch o gryn arwyddocâd. Ar yr arwyneb mae ei gwasgedd dros 1.5 bar (50% yn uwch na'r Ddaear). Cyfansoddwyd yn bennaf gan nitrogen molecwlaidd (fel ar y Ddaear) gyda tua 6% o [[argon]] ac ychydig o fethan. O ddiddordeb ydy bod yna hefyd olion o nid llai na ddwsin o gyfansoddion organig (fel [[ethan]], [[seianid hydrogen]], [[carbon deuocsid]]) a dŵr. Mae'r pethau organig yn cael eu ffurfio wrth i fethan, sy'n goruchafu awyrgylch uchaf Titan, yn cael ei dorri gan olau'r Haul. Mae'r canlyniad yn debyg i'r smog a welir uwchben dinasoedd mawr, ond yn fwy trwchus. Mae hynny'n debyg i'r Ddaear yn ystod ei hanes cynnar, ar ddechrau bywyd. Ond mae'r awyrgylch tawchog trwchus yn ei wneud yn anodd i weld arwyneb Titan.
Llinell 42:
 
Mewn lluniau a dynnwyd ym mis Hydref 2004, roedd wybren Titan yn rhydd o gymylau, ac eithrio o gwmpas pegwn y de. Ond ym mis Rhagfyr 2004 tynnodd Cassini luniau o Titan lle gellir gweld fod sawl clwt eang o gymylau wedi ffurfio. Yn y llun uchod gwelir bod awyrgylch uchaf Titan wedi ei gyfansoddi o nifer fawr o haenau tawch.
 
[[Categori:Lloerennau Sadwrn]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|en}}
Llinell 49 ⟶ 47:
{{Cyswllt erthygl ddethol|nl}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}
 
[[Categori:Lloerennau Sadwrn]]