Swahili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 124 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7838 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 3:
 
== Defnyddwyr Swahili ==
[[Delwedd:Swahili_areaSwahili area.gif|right|thumb|290px|Parth yr iaith Swahili (lliw melyn)]]
 
Mae Swahili yn iaith frodorol i lwythau'r Swahili, sy’n byw ar nifer o’r ynysoedd ger Dwyrain Affrica gan gynnwys [[Sansibar]] a Pemba a [[Mayotte]], ac ar arfordir Dwyrain Affrica, o ddeheudir [[Somalia]], trwy [[Cenia]] a [[Tansanïa]] hyd at ogledd [[Moçambique]]. Mae hefyd yn famiaith i lawer sy’n byw yn Nwyrain Affrica nad ydynt o dras Swahili, yn enwedig yn y dinasoedd a’r trefi mawrion amlhiliol. Yn sgil twf diweddar y trefi mae Swahili yn disodli ieithoedd brodorol gwreiddiol y trefi a’r dinasoedd, yn Tansanïa yn enwedig. Mae’r iaith hefyd wedi ymfudo gydag ymfudwyr o Ddwyrain Affrica i bedwar ban byd, gan gynnwys cymunedau yn [[Oman]], yr [[Emiradau Arabaidd Unedig]], [[De Affrica]] ac [[Unol Daleithiau America]]. Mae'r amcangyfrif o'r rhai sydd â Swahili yn famiaith iddynt yn amrywio o 5 miliwn i 10 miliwn o bobl.
 
 
Siaredir Swahili fel [[lingua franca]] yn helaeth trwy Ddwyrain Affrica, yn bennaf yn Tansanïa, Cenia, [[Iwganda]], [[Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo|Dwyrain Congo]], [[Rwanda]] a [[Bwrwndi]]. Mae’r amcangyfrif o’r sawl sy’n siarad Swahili fel ail iaith yn amrywio o 45 miliwn hyd at 85 miliwn. Fe addysgir trwy gyfrwng Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Fe astudir Swahili mewn nifer o brifysgolion dros y byd. Swahili a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cenia a Tansanïa.
Llinell 12 ⟶ 11:
== Datblygiad Swahili ==
Dechreuodd Swahili yn iaith frodorol i’r bobl Swahili sy’n byw ar arfordir Dwyrain Affrica. Dilyna datblygiad yr iaith ddatblygiad masnach ar hyd [[cefnfor India]] trwy gysylltiadau â masnachwyr o [[Persia]], [[India]], [[Portiwgal]] ac yn bennaf [[Arabia]]. Rhoi benthyg geiriau i Swahili a wnaeth yr ieithoedd eraill hyn, o'r Arabeg yn bennaf, yn hytrach na dylanwadu ar ei gramadeg. Rhyw 30-40% o eirfa Swahili sydd o dras Arabeg. Credir bod Swahili yn iaith eang ei ddefnydd erbyn ail hanner y pymthegfed ganrif. Ehangai’r defnydd o Swahili ar hyd y ffyrdd masnach a arweiniai o’r arfordir tuag at y gorllewin. Byddai carafannau taith masnach yn cynnwys cannoedd os nad miloedd o borthorion.
 
 
Ysgrifennwyd Swahili yn gyntaf yn yr [[orgraff Arabaidd]]. Yn ogystal â chadw cofnodion masnachol a gweinyddol ysgrifennwyd llenyddiaeth yn Swahili, yn enwedig barddoniaeth.
 
 
Datblygodd yr iaith ymhellach o dan ddylanwad gweinyddiaethau Almaenig ac i raddau llai Prydeinig. Hybwyd Swahili gan genhadon Cristnogol y 19eg ganrif a ddechreuodd ysgrifennu’r iaith yn yr [[orgraff Rufeinig]] a chreu geiriaduron a llyfrau gramadeg ar gyfer Swahili. Ludwig Krapf a ysgrifennodd y gramadeg a'r geiriadur cyntaf tua [[1848]]. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yn Swahili, ''Habari ya Mwezi'' yn [[1895]] gan genhadon. Erbyn heddiw yr orgraff Rufeinig a ddefnyddir i ysgrifennu Swahili modern. Cafwyd benthyg peth geirfa o'r Almaeneg a llawer yn rhagor o'r Saesneg. Mae Swahili yn dal i fenthyca o'r Saesneg on hyd yn hyn cymharol fychan yw cyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn Swahili, o'i gymharu â chyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn aml i iaith yn Ewrop.
Llinell 34 ⟶ 31:
== Datblygiadau eraill ==
Ymdrechwyd i hybu statws rhyngwladol Swahili trwy nifer o gyrff rhyngwladol, e.e. yr [[Undeb Affricanaidd]] a’r [[Cenhedloedd Unedig]], a thrwy astudiaeth o’r iaith mewn prifysgolion ledled y byd. Swahili a ddewiswyd yn iaith y trafodaethau yn uwch gyfarfod yr Undeb Affricanaidd yng Ngorffennaf 2004. Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Swahili ym mhrifysgol Dar Es Salaam. Rhan o waith y sefydliad yw bathu termau Swahili yn rhan o’r ymdrech i gystadlu â’r Saesneg fel iaith safonol y gellid dysgu drwyddi hyd at lefel prifysgol. Mae yn dasg enfawr i ddatblygu digon o adnoddau dysgu i gynnal addysg trwy gyfrwng Swahili ymhob pwnc hyd at lefel prifysgol. Hyd yn hyn trwy’r Saesneg yr addysgir hyd yn oed yn y dosbarthiadau uwch yn yr ysgolion uwchradd yn Tansania.
 
 
Yn Cenia ac yn Tansanïa mae Swahili a Saesneg ill dwy yn ieithoedd swyddogol. Mae tynfa yn bodoli rhwng yr awydd i ddefnyddio iaith Affricanaidd yn hytrach nag iaith [[imperialaeth|imperialaidd]] gynt fel prif iaith y wlad, a’r awydd i ddefnyddio a dysgu Saesneg er mwyn cystadlu’n well yn economaidd yn y byd.
 
 
Mae nifer o orsafoedd [[radio]] rhyngwladol yn cynnal gwasanaethau yn Swahili gan gynnwys Voice of America, y BBC, Deutschewelle, Radio Moscow rhyngwladol, Radio China rhyngwladol, All India Radio, a Radio Iran.
Llinell 48 ⟶ 43:
== Diwylliant Swahili ==
Mae traddodiad [[Barddoniaeth|barddonol]] Swahili yn un cryf. Yn ogystal â barddoni ar lafar mae cerddi ysgrifenedig Swahili ar gael ers tair canrif. Cred ysgolheigion yr iaith bod rhai o'r llawysgrifau cynharaf i oroesi yn arddangos patrymau iaith cyfnod cynharach o rai canrifoedd. Credant bod traddodiad o ysgrifennu Swahili yn bodoli ers y 13eg ganrif ond nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod cynnar gan fod defnydd ysgrifennu yn dirywio yng ngwres a lleithder a thrychfilod arfordir Dwyrain Affrica. Cerddi maethion yw trwch y cerddi cynharaf. Mae'r gerdd cynnar hwyaf oll yn farwnad i'r proffwyd Mohamed ac yn 45,000 llinell o hyd. Mae barddoni yn dal i ffynnu mewn papurau newydd ac ar y radio yn Cenia a Tansanïa. Un o’r beirdd Swahili modern enwocaf yw [[Robert Shaaban]] (1902-1962) a oedd hefyd yn awdur ysgrifau. Mae llenyddiaeth modern Swahili yn cynnwys storïau a nofelau a llyfrau chwedlau, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Swahili o chwedlau brodorol Dwyrain Affrica'n gyffredinol.
 
 
Un o’r caneuon Swahili mwyaf adnabyddus tu allan i Ddwyrain Affrica yw ‘Malaika’ o Cenia, yn arbennig yn y fersiwn a recordiwyd gan [[Miriam Makeba]].
 
 
Yn ogystal â cherddi (ushairi) ceir yn Swahili drysorfa helaeth o [[dihareb|ddiarhebion]] (methali), dywediadau (misemo), [[dameg|damhegion]] (mafumbo) a phosau (vitendawili). Mae’n arfer i gyfansoddi penillion i ddathlu achlysur arbennig. Yn aml caiff cyfres o gerddi moliant (mashairi) eu datgan mewn dathliad, a pharti yn datgan y cerddi ar lafar neu ar gân, a phob un yn datgan pennill yn ei dro, gyda chytgan i’w adrodd gan bawb.
 
 
Mae Swahili wedi cael benthyg llawer iawn o eiriau o ieithoedd eraill ac mae wedi talu’r pwyth yn ôl trwy roi benthyg ambell air i ieithoedd eraill. Mae geiriau benthyg ac ymadroddion cyfarwydd o’r Swahili yn cynnwys:
Llinell 66 ⟶ 58:
== Ynganiad Swahili ==
Daw’r pwyslais ar eiriau Swahili ar y sill cyn yr olaf (fel yn Gymraeg), heblaw am eithriadau ar gyfer rhai geiriau benthyg o’r Arabeg ac ieithoedd eraill. Gan amlaf, os gwelwch ddwy lafariad wedi eu hysgrifennu un ar ôl y llall maent yn cyfrif fel dwy sill. Felly yn y gair '''kioo''' (drych) ceir 3 sill ac mae pwyslais y gair ar yr '''o''' gyntaf. Mae '''m''' o flaen cytsain arall ar ddechrau gair weithiau yn sill wrth ei hunan.
 
 
Ysgrifennir Swahili yn ôl y sain. Yngenir y cytseiniaid yn ddigon tebyg i’r un cytseiniaid yn Saesneg heblaw am '''r''' sy’n debycach i '''r''' Gymraeg. Mae '''w''' ac '''y''' yn gytseiniaid yn Swahili. Yngenir '''ng''' yn '''ng-g'''. Yngenir '''ng’''' rhywbeth yn debyg i '''ng''' Gymraeg, e.e. '''ng’ombe''' (buwch). Yngenir '''dh''' fel '''dd''' Gymraeg. Yngenir '''gh''' rhywle rhwng '''ch''' Gymraeg a sŵn garglio.
 
 
Yngenir llafariaid Swahili ('''a''', '''e''', '''i''', '''o''', '''u''') yn ddigon tebyg i lafariaid y Gymraeg heblaw bod '''u''' yn cael ei ynganu fel '''w''' Gymraeg. Mae’r llafariaid fel arfer yn weddol fyr ond bod '''u''' ryw hanner ffordd rhwng yr '''w''' yn y gair 'twr' a’r gair 'tŵr' yn Gymraeg. Pan dyblir llafariaid maent yn hir.
 
 
'''Yr wyddor Swahili:'''
Llinell 86 ⟶ 75:
 
Nid yw ‘Swahili’ yn air sy’n bod ar ei ben ei hun o gwbl. Gyda llaw, mae’r cnewyllyn -swahili yn dod o’r Arabeg ''As-Sawahili'' sydd yn golygu rhywbeth yn debyg i ‘drigolion yr arfordir’.
 
 
Fe allwch gael hyd at 3 rhagddodiad cyn cnewyllyn berf yn Swahili. Oherwydd hyn mae darganfod gair mewn geiriadur Swahili yn gallu creu cryn benbleth i ddysgwyr.
 
 
== Cyfeirnodion ar y we ==