Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ceuta"

Ychwanegwyd 6 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Man olygu using AWB
B (Bot: Migrating 98 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5823 (translate me))
(Man olygu using AWB)
[[Delwedd:Locator map of Ceuta.png|thumb|right|Lleoliad Ceuta]]
Mae '''Ceuta''' yn diriogaeth Sbaenaidd 19km19 km², sy'n rhan o ranbarth [[Andalucia]] yn [[Sbaen]], ar arfordir [[Gogledd Affrica]]. Mae'n wynebu'r [[Môr Canoldir]] i'r gogledd ac yn ffinio â [[Moroco]] (rhanbarth [[Tanger-Tétouan]]) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi ([[Arabeg]] ''Sebta'' o'r [[Lladin]] ''Septem''), boblogaeth o 70,000.
 
Yn ôl traddodiad, ymwelodd [[Ercwlff]] (Heracles) ac [[Odysseus]] (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]]. Fe'i rheolwyd gan yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] ar ôl hynny ac yna yn [[931]] fe'i meddianwyd gan reolwyr [[Umayyad]] newydd Andalucia. Roedd y bardd [[Ibn Sahl o Sevilla]] yn Ceuta rhwng [[1248]] a [[1250]] yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd [[Siâms I o Aragon]] y ddinas yn [[1309]] ac yn [[1415]] fe'i cipwyd gan [[Portiwgal]]. Rhwng [[1580]] a [[1640]] roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.
450,625

golygiad