Ghardimaou: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1521438 (translate me)
Man olygu using AWB
Llinell 1:
[[Image:Gare_ghardimaouGare ghardimaou.jpg|thumb|right|250px|Hen lun o orsaf trenau Ghardimaou]]
 
Mae '''Ghardimaou''' neu '''Ghardimao''' ([[Arabeg]]: غار الدماء) yn ddinas yng ngogledd-orllewin [[Tunisia]] sy'n gorwedd 192  km i'r dwyrain o'r brifddinas [[Tunis]].
 
Mae Ghardimaou yn rhan o [[Jendouba (talaith)|dalaith Jendouba]], a chanolfan yr ardal leol (''délégation'') sydd gyda phoblogaeth o 67,955. Mae tua 19,688 o bobl yn byw yn Ghardimaou ei hun.
 
Ghardimaou yw'r arosfa olaf ar y rheilffordd o Tunis a adeiladwyd gan [[Ffrainc]] yn [[1878]]; mae gwasanaeth traws-[[Maghreb]] yr ''Al-Maghreb al-Arabi'' yn pasio trwy'r ddinas unwaith eto erbyn heddiw, ar ôl cyfnod hir heb redeg oherwydd y rhyfel cartref yn Algeria. Y ddinas yw'r lle mawr olaf yn nyffryn [[afon Medjerda|Medjerda]] cyn cyrraedd y ffin ag [[Algeria]] (16  km i'r gorllewin).
 
Yng nghyffiniau Ghardimaou ceir dau safle archaeolegol Rhufeinig diddorol, sef tref a chwarel [[Chemtou]] a dinas fechan [[Thubernica]]. Mae bryniau'r [[Kroumirie]] yn codi o gwmpas y ddinas.