Arwyddion dwyieithog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 12 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q29079 (translate me)
didolnod Tsieineeg a Choreeg, replaced: Tsieinëeg → Tsieineeg using AWB
Llinell 24:
Yn yr Alban, ceir arwyddion dwyieithog, [[Gaeleg yr Alban]] a Saesneg, yn [[Ynysoedd Heledd]] (''Na h-Eileanan Siar''), ac mewn rhannau gorllewinol o [[Ucheldiroedd yr Alban]]. Mae'r enwau Gaeleg mewn gwyrdd tywyll, a'r Saesneg mewn du.
 
O tua 1981 ymlaen, bu mudiad [[Ceartas]] yn ymgyrchu i gael arwyddion dwyieithog yn yr Alban, gan ddifrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg a phaentio'r slogan ''Ceartas airson na Gàidhlig'' ("Cyfiawnder i Aeleg yr Alban") ar y ffyrdd. Yn [[2005]], pasiodd [[Senedd yr Alban]] Ddeddf yr Iaith Aeleg (yr Alban) 2005, a roddodd statws swyddogol i'r iaith Aeleg am y tro cyntaf. Bwriada Cyngor yr Ucheldir ymestyn y defnydd o arwyddion dwyieithog i rannau eraill o'i ardal, ond cafwyd gwrthwynebiad mewn rhai ardaloedd lle nad oes llawer o siaradwyr Gaeleg, er enghraifft [[Caithness]].<ref>[http://www.nowpublic.com/culture/scotland-alba-bilingual-signs-controversy Scotland-Alba-bilingual-signs-controversy o NowPublic]</ref> <ref>[http://www.johnogroat-journal.co.uk/news/fullstory.php/aid/4382/Bilingual_signs_policy_slammed_as__ridiculous_.html Bilingual signs policy slammed as_ ridiculous John O Groat Journal]</ref>
 
====Gogledd Iwerddon====
Llinell 49:
 
====Corsica====
[[Delwedd:Corse_signalisationCorse signalisation.jpg|thumb|150px|right|Arwydd dwyieithog ger [[Bastia]], Corsica, gyda'r fersiwn Ffrangeg wedi ei pheintio.]]
Ar ynys [[Corsica]], mae'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog, [[Corseg]] a [[Ffrangeg]], gan gynnwys yr arwyddion ar y priffyrdd cenedlaethol (''Ajaccio/Aiacciu, Corte/Corti, Puerto-Vecchio/Porti-Vechju, Sartene/Sartè, Bonifacio/Bunifaziu''). Mewn rhai cymunedau, yn enwedig yng nghanolbarth yr ynys, penderfynwyd cael arwyddion Corseg yn unig. Mae enwau strydoedd ac arwyddion gwasanaethau yn uniaith Ffrangeg.
 
Llinell 64:
 
Yn yr un ffordd, yn y trefi ac yn yr ardaloedd cefn gwlad fel ei gilydd, mawr a bychain, mae nifer y ''communes'' sy'n codi arwyddion ffyrdd ac arwyddion stryd dwyieithog yn cynyddu o hyd. Ceir enghreifftiau yn : [[Lorient]], [[Brest]], [[Carhaix-Plouguer]], [[Rostrenen]], [[Mellac]], [[Pluguffan]], [[Quimper]], [[Lannion]], [[Pontivy]], [[Vannes]], [[Landerneau]], [[Scaër]], [[Brec'h]], [[Pouldergat]], [[Redon]] a lleoedd eraill.<ref>[http://www.redon.maville.com/actu/actudet_-Les-ronds-points-ont-desormais-un-nom-_loc-879397_actu.Htm "''Les ronds-points ont désormais un nom''"], ''Ouest-France'', 31-03-2009</ref>
 
 
[[File:Kastell-Nevez-ar-Faou.jpg|thumb|right|Arwydd dwyieithog [[Ffrangeg]]/[[Llydaweg]] yn Llydaw.]]
Llinell 118 ⟶ 117:
 
===Yr Iseldiroedd===
[[Delwedd:Exmorra 02.JPG|thumb|chwith|220px|Arwydd dwyieithog, Iseldireg a Ffriseg yng nghymuned Wûnseradiel,Fryslân ]]
 
====Fryslân====
Llinell 180 ⟶ 179:
 
===Gweriniaeth Pobl Tsieina===
Ceir nifer fawr o ieithoedd rhanbarthol yng [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Ngweriniaeth Pobl Tsieina]], ond oherwydd fod y rhan fwyaf o'r ieithoedd hyn yn defnyddio symbolau ideogramatig, wedi ei seilio ar yr ystyr yn hytrach na'r sain, nid oes galw am arwyddion dwyieithog. Gellir deall y symbolau mewn iaithoedd gwahanol. Ar y priffyrdd pwysicaf, ac yn rhai o'r dinasoedd lle mae mwyaf o dramorwyr, er enghraifft [[Shanghai]], mae'r arwyddion yn cynnwys yr enwau wedi eu trawslythrennu i'r [[wyddor Ladin]]. Yn [[Hong Kong]], ceir arwyddion dwyieithog, [[Saesneg]] a [[TsieinëegTsieineeg]], gyda'r Saesneg yn uchaf.
 
===Indonesia===
Llinell 194 ⟶ 193:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Iaith]]