Nagaland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 80 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1599 (translate me)
didolnod Tsieineeg a Choreeg using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Nagaland in India (disputed hatched).svg|200px|bawd|Lleoliad Nagaland yn India]]
[[Delwedd:Nlgirls.gif|200px|bawd|Merched Naga yn eu gwisg draddodiadol]]
Mae '''Nagaland''' yn [[Taleithiau a thiriogaethau India|dalaith]] ym mryniau coediog gogledd-ddwyrain eithaf [[India]]. Mae'n ffinio â thaleithiau [[Assam]] i'r gorllewin, [[Arunachal Pradesh]] a rhan o Assam i'r gogledd, gwlad [[Myanmar]] i'r dwyrain a thalaith [[Manipur]] i'r de. [[Kohima]] yw prifddinas Nagaland, a [[Dimapur]] yw'r ddinas fwyaf. Gyda phoblogaeth o 1,988,636, (2001) ac arwynebedd tir o 16,579  km² yn unig mae'n un o daleithiau lleiaf India. Cafodd ei sefydlu fel talaith yn [[1963]].
 
Mae'r dalaith wedi dioddef o ansefydlogrwydd gwleidyddol ers degawdau ac mae'n anodd cael caniatad i fynd yno. Ers i India ennill eu hannibyniaeth mae galwadau am annibyniaeth i Nagaland wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith sydd wedi gweld lefelau uchel o drais ar adegau.
Llinell 8:
 
==Daearyddiaeth a hinsawdd==
Talaith fynyddig yw [[Nagaland]]. Mae [[Bryniau Naga]] yn codi o ddyffryn [[Afon Brahmaputra]] yn [[Assam]] i tua 2,000 troedfedd ac yna'n codi'n graddol uwch i'r de-ddwyrain, hyd at 6,000 troedfedd. [[Mynydd Saramati]], 12,552 troedfedd uwch lefel y môr, yw copa uchaf y dalaith - yma mae Bryniau Naga Hills yn ymdoddi i [[Cadwyn Patkai|Gadwyn Patkai]] dros y ffin yn [[Myanmar]]. Mae nifer o afonydd, yn cynnwys afonydd Doyang a Dhiku yn y gogledd, Afon Barak yn y de-orllewin ac Afon Chindwin (sy'n llifo o Fyanmar) yn y de-ddwyrain, yn llifo ar draws y dalaith.
 
Mae gan Nagaland ''flora'' a ''fauna'' cyfoethog. Mae tua 15% o Nagaland yn orchuddiedig gan coedwigoedd trofaol ac is-drofaol bytholwyrdd - yn cynnwys [[palmwydden|palmwydd]], [[bambŵ]] a [[rattan]] ynghyd â fforestydd [[mahogani]]. Yn yr ardaloedd coediog ceir high nifer o anifeiliaid fel [[ci gwyllt|cŵn gwyllt]], [[pangolin]]s, [[porciwpein]]s, [[eliffant]]od, [[llewpard]]iaid, [[arth|eirth]], [[mwnci|mwncïod]], [[sambar]], [[carw|ceirw]], [[ych]]en a [[byffalo]]s. Mae'r [[Hornbill Mawr Indiaid]] yn un o'r [[aderyn|adar]] mwyaf enwog o'r dalaith.