Panda Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 97 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q33602 (translate me)
didolnod Tsieineeg a Choreeg using AWB
Llinell 18:
[[Mamal]], herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta [[bambŵ]] ac sydd i'w cael ym mynyddoedd [[Asia]] yw'r '''Panda Mawr''' neu'r '''Panda Anferth''' ([[Lladin]]: ''Ailuropoda melanoleuca''. Caeir dau is-rywogaeth, ''[[Ailuropoda melanoleuca melanoleuca]]'' ac ''[[Ailuropoda melanoleuca qinlingensis]]''.
 
Daw'r enw "panda" o'r Nepaleg ''poonya'', "Bwytawr bambŵ". Yr enw Tsineëg yw 大熊猫 (da xiong mao). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinol [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]], yn arbennig yn nhalaethiau [[Sichuan]] a [[Yunnan]]. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80  kg hyd 100  kg.
 
Er eu bod yn perthyn i'r ''Carnovora'', maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14  kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.
 
Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.