Lahore: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Dinas | enw = Lahore | llun = Badshahi Mosque July 1 2005 pic32 by Ali Imran.jpg | delwedd_map = Lahore District.png | Gwlad = Pakistan | Ardal = [...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:42, 23 Mawrth 2013

Dinas ail-fwyaf Pakistan a phrifddinas talaith Punjab yw Lahore (Pwnjabeg: لہور; Wrdw: لاہور). Roedd ganddi boblogaeth o 6,318,745 yn ôl cyfrifiad 1998 ond mae'r boblogaeth wedi cynyddu i fwy na 10 miliwn bellach.[1][2] Lleolir y ddinas ar Afon Ravi ger y ffin ag India. Mae wedi gwasanaethu fel prifddinas sawl teyrnas ac ymerodraeth dros y mileniwm diwethaf ac mae ganddi lawer o adeiladau hanesyddol o'r cyfnodau hynny.[3] Heddiw, mae'r ddinas yn un o brif ganolfannau economaidd, addysgol a diwylliannol Pakistan.

Lahore
Lleoliad yn nhalaith Punjab
Gwlad Pakistan
Ardal Punjab
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Dinas-ardal Lahore
Daearyddiaeth
Arwynebedd 1,772 km²
Uchder 217 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 6,318,745 (Cyfrifiad 1998)
Dwysedd Poblogaeth 3,566 /km2
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser UTC+5.00
Gwefan lahore.gov.pk

Cyfeiriadau

  1. City District Lahore at a glance, Population Census Organization. Adalwyd 23 Mawrth 2013.
  2. Pakistan 2013 Crime and Safety Report: Lahore, OSAC. Adalwyd 23 Mawrth 2013.
  3. Lahore. Encyclopædia Britannica Online Library Edition. Adalwyd 23 Mawrth 2013.
 
Caer Lahore
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.