Calendr Iŵl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Y Calendr Iwliaidd i Calendr Iwliaidd
B dolen
Llinell 1:
Addasiad o [[calendr|galendr]] y [[Rhufeiniaid]] yn ystod teyrnasiad [[Iwl Cesar]] ydy'r '''Calendr Iwliaidd''' a wnaed yn 46 CC ac a ddaeth i rym y flwyddyn ddilynol. Fe'i derbyniwyd gan y rhan fwyaf o wledydd Ewrop a thiriogaethau a wladychwyd yn ddiweddarach gan Ewropeaid e.e. rhannau o gyfandir America, hyd nes iddo gael ei addasu ymhellach a'i alw'n [[Calendr Gregori|Galendr Gregori]] yn 1582.
 
Ceir ynddo 365 diwrnod wedi'u clystyru'n 12 mis, fel y nodir yn y "Tabl Misoedd". Ychwanegir [[diwrnod naid]] ym mis Chwefror bob pedair mlynedd. Mae'r flwyddyn Iwliaidd, felly, yn 365.25 diwrnod o ran hyd. Roedd yn fwriad i'r calendr hwn gyfateb fwy neu lai gyda blwyddyn yr haul. Gwyddai seryddwyr [[Gwlad Groeg|Groegaidd]] ers cyfnod [[Hipparchus]] fod y flwyddyn trofanol ychydig funudau'n llai na 365.25 diwrnod, ond nid oedd y calendr yn ateb y broblem yma. O ganlyniad, roedd tridiau'n ychwanegol - bob pedwar canrif. Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.