Charles Darwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Llinell 21:
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor [[Cape Verde]], i [[Ynysoedd Falkland]] ([[Malvinas]]), i lannau môr [[De America]], [[Ynysoedd y Galapagos]], [[Seland Newydd]] ac [[Awstralia]]. Daeth yn ôl adref ar [[2 Hydref]], [[1836]], ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am [[crwban|grwbanod]] ac [[aderyn|adar]] Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
 
Yng ngwanwyn [[1837]] hysbyswyd ef fod [[adareg|wyr]]adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai [[llinos]] oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd [[Thomas Malthus]] ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym [[1798]] arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.
[[Delwedd:Llyn Idwal.JPG|bawd|dde|200px|Cwm Idwal: man allweddol yn natblygiad syniadaeth Darwin o esblygiad]]
Cyhoeddwyd llyfr am ei ddamcaniaeth, ''Notebook on the Transmutation of Species'', sydd yn cytuno â ''Principles of Geology'' gan Syr [[Charles Lyell]] ac ''Essay on the Principle of Population'' gan [[Thomas Malthus]] sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn tueddu i gyfyngu poblogaeth i un ardal neilltuol. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion ar [[colomen|golomennod]] a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyr [[mochyn|moch]] i gryfhau ei ddamcaniaeth.