Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau, replaced: ffynonell → ffynhonnell using AWB
Cywiro Ffynonellau, replaced: ffynhonnellau → ffynonellau using AWB
Llinell 2:
System o gyfeirnodau grid daearyddol a ddefnyddir yng [[Prydain Fawr|ngwledydd Prydain]], sy'n wahanol i [[hydred]] a [[lledred]], yw'r '''system cyfeirio Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans'''.
 
Crëwyd y system hon gan yr [[Mapiau Arolwg Ordnans|Arolwg Ordnans]], ac fe'i defnyddir yn aml er mwyn dadansoddi'u data ymchwil, ac wrth ddiweddaru a chreu mapiau (naill ai gan yr Arolwg Ordnans neu drydydd barti) sy'n seiliedig ar yr arolygon hyn. Dyfynnir cyfeirnodau gridiau yn aml hefyd gan gyhoeddiadau a ffynhonnellauffynonellau o ddata eraill, megis arweinlyfrau neu ddogfennau cynllunio i'r [[llywodraeth]].
 
Mae llawer o systemau'n bodoli, ac maent yn gallu darparu cyfeirnodau gridiau am leoliadau yn [[Ynysoedd Prydain]]: mae'r erthygl hon yn disgrifio'r system a grëwyd i Brydain Fawr a'r ynysoedd sydd ar ei hymyl yn benodol (gan gynnwys [[Ynys Manaw]]); system debyg a ddefnyddir yn [[Iwerddon]] ydy'r [[system gyfeirnodau gridiau Iwerddon]], a grëwyd gan [[Arolwg Ordnans Iwerddon]] ar gyfer yr ynys ei hunan. Defnyddir [[system gyfesur Universal Transverse Mercator]] (UTM) er mwyn darparu cyfeirnodau gridiau i leoliadau byd-eang, a dyma'r system a ddefnyddir ar gyfer [[Ynysoedd y Sianel]]. Mae asiantau Ewrop hefyd yn defnyddio'r system honno wrth fapio lleoliadau, ac ambell waith defnyddient [[system o gyfeirnodau grid milwrol|systemau o gyfeirnodau grid milwrol]] (MGRS) amrywiol.