Castell Degannwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau, replaced: ffynonell → ffynhonnell (2) using AWB
Cywiro Ffynonellau, replaced: ffynhonnellau → ffynonellau (2) using AWB
Llinell 1:
[[Castell]] canoloesol yw '''Castell Degannwy''' a godwyd ar safle [[bryngaer]] gynharach wrth [[aber]] [[afon Conwy|Conwy]] yn y [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]], gogledd Cymru. Cyfeirir at y safle fel '''Caer Ddegannwy''' mewn ffynhonnellauffynonellau Cymreig canoloesol. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn hanes [[teyrnas Gwynedd]] a'r rhyfeloedd dros annibyniaeth rhwng tywysogion [[Cymru]] a brenhinoedd [[Lloegr]], ond ychydig sy'n weladwy yno heddiw. Amddiffynnai groesfan strategol iawn ar [[afon Conwy]]. Saif ar ben bryn y tu ôl i dref [[Deganwy]], [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
 
== Hanes ac archaeoleg ==
Llinell 8:
Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru]] a dechrau'r [[Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru|Oesoedd Tywyll]]. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.
 
Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] godi castell [[mwnt a beili]] yno yn [[1088]] pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, roedd yr Iarll Robert yn cysgu ganol dydd yn y castell pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw [[Pen y Gogarth]], i'r gogledd, a'u bod yn ysbeilio ei diroedd. Dywed rhai ffynhonnellauffynonellau mai [[Gruffudd ap Cynan]] oedd yn eu harwain, wedi iddo ddianc o garchar Robert yng [[Caer|Nghaer]]. Gyrrodd Robert negeseuwyr i ymgynnull ei filwyr, ac aeth ef ei hun i odre Ben y Gogarth, lle gwelodd fod y llanw'n codi a'r Cymry ar fin hwylio ymaith gyda'i hysbail. Rhuthrodd Robert i lawr y llechwedd mewn cynddaredd, a dim ond ei gludydd arfau yn ei ddilyn. Lladdwyd ef a gwaywffyn, a hwyliodd y Cymry ymaith gyda'i ben ynghlwm wrth fast un o'r llongau.
 
Yn [[1213]] cipiwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.