George Buchanan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 13 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q715169 (translate me)
Ffynonellau using AWB
Llinell 7:
Roedd gan Buchanan ddiddordeb yn y syniadau [[Protestaniaeth|Protestannaidd]] newydd, ond parhaodd yn aelod o'r [[Eglwys Gatholig]] yr adeg yma. Pan fu erlid ar y Lutheriaid yn yr Alban yn 1539 ffôdd i Baris, ond pan ddarganfu fod ei elyn, y cardinal [[David Beaton]], yno, aeth ymlaen i [[Bordeaux]], lle daeth yn athro [[Lladin]] yng Ngholeg Guienne. Ysgrifennodd nifer o'i weithiau gorau yma, ac roedd [[Michel de Montaigne]] yn un o'i fyfyrwyr. Yn 1542 neu 1543 dychwelodd i Baris, yna yn [[1547]] aeth i Brifysgol Coimbra, [[Portiwgal]]. Yma cyhuddwyd ef o fod yn ddilynydd Luther, a charcharwyd ef am saith mis. Dychwelodd i Baris, yna yn 1560 neu 1561 i'r Alban, lle daeth yn diwtor i'r frenhines ieuanc, [[Mari I, brenhines yr Alban|Mari I]]. Erbyn hyn roedd yn Brotestant agored. Yn ddiweddarach daeth yn diwtor i'w mab, [[Iago I/VI o Loegr a'r Alban|Iago VI]]. Bu farw yng [[Caeredin|Nghaeredin]] yn 1582, gan gael ei gladdu ym mynwent Greyfriars.
 
Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau, ac ystyrir ef yn un o awduron Lladin gorau y cyfnod modern. Ymhlith ei weithiau pwysicaf mae ''De Jure Regni'', lle awgryma fod grym yn dod o'r bobl, yn hytrach nag o'r brenin, a ''Rerum Scoticarum Historia'', a orffennodd ychydig cyn ei farwolaeth, sy'n adrodd [[hanes yr Alban]]. Yn y llyfr hwn, ef oedd y cyntaf i nodi fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a [[Galeg|hen iaith Gâl]] oedd ar wahan i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germanaidd, a galwodd hwy yr ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair ''[[Y Celtiaid|''Celt'']]'' am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod [[Gwyddeleg]] a [[Gaeleg yr Alban]] wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde [[Gâl]]. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o'r term "Celt".
 
{{DEFAULTSORT:Buchannan, George}}