Lucius Cornelius Sulla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 48 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q483783 (translate me)
Ffynonellau using AWB
Llinell 7:
Yn 107 CC, penodwyd Sulla i swydd [[quaestor]] i gynorthwyo [[Gaius Marius]], oedd wedi ei ethol yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] am y flwyddyn. Cafodd Marius y dasg o arwain byddin Rhufain yn y rhyfel yn erbyn [[Jugurtha]], brenin [[Numidia]] yng ngogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Jugurtha, i raddau helaeth oherwydd i Sulla berswadio [[Bocchus]], brenin [[Mauretania]], i fradychu Jugurtha, oedd wedi ffoi ato am gymorth. Rhwng [[104 CC]] a [[101 CC]] bu'n ymladd gyda Marius yn erbyn llwythau Almaenig y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]], a bu ganddo ran amlwg ym muddugoliaeth [[Brwydr Vercellae]].
 
Etholwyd ef i swydd ''[[Praetor]] urbanus'' yn 97 CC, a'r flwyddyn wedyn roedd yn ''[[proconsul|''pro consule'']]'' talaith [[Cilicia]] (yn [[Anatolia]]). Dychwelodd i Rufain tua [[93 CC]], ac ochrodd gyda'r ''[[Optimates]]'' yn erbyn Gaius Marius. Yn 92 CC gyrrodd Sulla [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]], o [[Cappadocia]].
 
Yn [[91 CC]] dechreoudd [[Rhyfel y Cyngheiriaid]] (91–87 C) rhwng Rhufain a'i cyngheiriaid Eidalaidd, oedd yn ceisio gorfodi Rhufain i roi hawliau llawn iddynt. Enillodd Sulla nifer o fuddugoliaethau, yn cynnwys cipio [[Aeclanum]]. Yn 88 CC, etholwyd ef yn gonswl am y tro cyntaf.