Rhyfel y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 63 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q48249 (translate me)
B angen ffynhonnell
Llinell 4:
Mae [[Ynysoedd y Falklands]] ([[Sbaeneg]]: ''Islas Malvinas'', '[[Ynysoedd y Malvinas]]') yn Ne Cefnfor yr Iwerydd, rhyw 300 chan milltir oddi arfordir yr Ariannin. Maent yn cynnwys dwy brif ynys a 776 o rai llai. Mae hanes cymhleth wedi bod i'r ynysoedd ers iddynt gael eu darganfod, gyda [[Ffrainc]], [[Sbaen]] a'r DU yn hawlio perchnogaeth. Pan gafodd yr Ariannin ei hannibyniaeth yn 1816 gwnaeth hithau'r un peth. Cymerodd Prydain berchnogaeth o'r ynysoedd trwy rym yn 1833, ond mae'r Ariannin wedi hawlio perchnogaeth yn barhaus ers hynny.
 
Mae poblogaeth o ryw ddwy fil yn byw ar yr ynys ac maent yn ddibynnol ar yr Ariannin am nwyddau a bwyd, am addysg i lawer o'r bobl ifanc, ac am wasanaethau iechyd.{{angen ffynhonnell}}
 
Ers ei hannibyniaeth hawliai'r Ariannin [[sofraniaeth]] ar Ynysoedd y Falklands, ond cafodd yr ynysoedd eu hawlio trwy rym gan [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon|Goron Prydain]] yn gynnar yn [[1833]] a'u troi'n [[Trefedigaeth|wladfa]] Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynnwyd yr ynysoedd gan lywodraeth filwrol asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y [[Cenhedloedd Unedig]] a'r [[Unol Daleithiau]] i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth [[Margaret Thatcher]] i ail-gipio'r ynysoedd; "Tasglu'r Falklands" fel y'i gelwid. Ar [[25 Ebrill]] cipiwyd ynysoedd [[De Georgia]] yn ôl ac erbyn [[14 Mehefin]] roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant y Deyrnas Unedig. Collodd 257 Prydeiniwr eu bywydau, 649 o luoedd arfog yr Ariannin, a thri o drigolion yr ynys, gan gynnwys suddo'r llong ''[[Sir Galahad]]'' gan awyrennau Archentaidd a lladd nifer o Gardiau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y ''[[General Belgrano]]'' gan long danfor Brydeinig gyda cholledion mawr o gonsgriptiaid ifainc.