Afon Gyrrach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau, replaced: ffynonell → ffynhonnell using AWB
Ffynonellau, replaced: ffynhonnellau → ffynonellau using AWB
Llinell 2:
Mae '''Afon Gyrrach''' yn afon fach yn [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] sy'n rhedeg o lethrau [[Tal-y-Fan]] i'r môr ger twnel [[Penmaen-bach]].
 
Er mai dim ond rhyw 5 milltir yw ei hyd mae cwrs yr afon yn amrywiol iawn. Mae ei tharddle tua 1700 troedfedd i fyny ar lethrau gogleddol mynydd [[Tal-y-Fan]], y cyntaf o gopaon [[y Carneddau]] o gyfeiriad y dwyrain. Anodd dweud pa un o'r ffynhonnellauffynonellau bychain ger Bwlch Defaid yw ei gwir darddle.
 
Mae hi'n rhedeg ar gwrs tua'r gogledd-dwyrain o Fwlch Defaid, trwy gorsdir gwlyb iawn lle gwelir [[merlod mynydd Cymreig|merlod mynydd]] haf a gaeaf, ac yna heibio i hen gronfa dŵr a adeiladwyd gan Cyngor [[Penmaenmawr]] tua dechrau'r [[20fed ganrif]]. Mae hi'n pasio dan bont fach i gerddwyr ger Waun Gyrrach ar ôl i nifer o ffrydiau llai ymuno â hi ac yna'n disgyn yn gyflym trwy Nant Ddaear y Llwynog (neu'r ''Fairy Glen'' yn Saesneg) goediog i [[Capelulo|Gapelulo]] wrth droed [[Bwlch Sychnant]].