Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Marion Eames"

Ychwanegwyd 4,439 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
B (cat)
(ehangu)
__DIMTAFLENCYNNWYS__
Awdur nifer o nofelau hanesyddol Cymraeg oedd '''Marion Eames''' ([[1921]] - [[3 Ebrill]] [[2007]]) Fe'i ganwyd i rieni Cymraeg, ym [[Penbedw|Mhenbedw]], Lloegr, ond fe'i magwyd yn Nolgellau. Dywedodd yn ddiweddarch mai ychydig o Gymraeg oedd ganddi pan symudodd i Ddolgellau.
 
Awdur nifer o [[nofel]]au [[hanes]]yddol [[Cymraeg]] oedd '''Marion Eames''' ([[5 Chwefror]] [[1921]] - [[3 Ebrill]] [[2007]]). Fe'i ganwyd i rieni Cymraeg, ym [[Penbedw|Mhenbedw]], Lloegr, ond fe'i magwyd yn [[Dolgellau|Nolgellau]] er yn 4 oed. Dywedodd yn ddiweddarach mai ychydig o Gymraeg oedd ganddi pan symudodd i Ddolgellau. Ni allodd droi at siarad Cymraeg yn rhugl nes iddi symud i [[Aberystwyth]] am gyfnod o waith. Roedd hi wedi gadael Ysgol Dr Williams, Dolgellau yn 16 oed. Cafodd swydd yn [[Llyfrgell]] y Sir, Dolgellau. Yno bu raid iddi ddarllen [[llenyddiaeth Gymraeg|llyfrau Cymraeg]], a hynny a barodd iddi werthfawrogi llenyddiaeth Cymru ac i ymfalchïo yn ei Chymreictod. Penderfynodd ei bod am fod yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd y cyfle i wneud hynny pan symudodd i weithio am gyfnod o 2 flynedd fel llyfrgellydd ym [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Bwrodd ati i ymarfer siarad Cymraeg gyda'u ffrindiau newydd yno gan gynnwys ar aelwyd yr [[Urdd Gobaith Cymru|Urdd]]. Magodd ddigon o hyder i ddal ati i siarad Cymraeg pan ddychwelodd i weithio yn llyfrgell Dolgellau eto, a hynny yn wyneb rhagfarn ei chydnabod yn Nolgellau oedd wedi arfer meddwl amdani fel Saesnes yn hytrach na Chymraes.
 
Yr oedd Marion Eames wedi bod yn ysgrifennu straeon byrion yn Saesneg ers dyddiau ysgol. Wedi dychwelyd i Ddolgellau dechreuodd ysgrifennu erthyglau yn Saesneg a Chymraeg i bapurau [[Plaid Cymru]], a daeth yn drefnydd rhanbarthol ar gyfer Plaid Cymru. Cafodd swydd golygydd y [[Papur Newydd|papur]] wythnosol lleol, ''Y Dydd'' ond, gan gymaint oedd pwysau'r gwaith arni, bu raid iddi roi'r gorau iddi, gan beidio â gweithio o gwbl am gyfnod. Y pryd hynny fe ail-daniwyd ei diddordeb mewn [[cerddoriaeth]]. Enillodd ar y ddeuawd [[cerdd dant]] yn [[Yr Eisteddfod Genedlaethol|Eisteddfodau Cenedlaethol]] Caerffili (1950) ac Aberystwyth (1952), ac enillodd ar ganu i hunangyfeiliant y [[telyn|delyn]] yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni (1957). Gyda chymorth grant fach aeth i astudio'r [[piano]] a'r delyn yng Ngholeg Cerdd Guildhall yn [[Llundain]], gyda'r bwriad o ddychwelyd i Ddolgellau yn athrawes cerddoriaeth. Ond tra yn Llundain cyfarfu â'r [[newyddiadurwr]] Griffith Williams a'i briodi yn 1955. Bu'n gweithio i'r cylchgrawn ''[[Home & Country]]'' cyn i'r ddau ohonynt achub cyfle i ddychwelyd i Gymru, gan symud i [[Morgannwg|Forgannwg]] lle y bu Marion yn gynhyrchydd radio i'r [[BBC]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] hyd nes iddi ymddeol ym 1980.
 
Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobl y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''Y Stafell Ddirgel'', yn yr erthygl 'Crynwyr Cymreig Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889. Yr oedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn ''[[Y Cymro]]'', a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd ''Y Stafell Ddirgel'' ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.
 
Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr. <ref> ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) </ref> Addaswyd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.
 
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams Dolgellau ac wedyn yn Ysgol y Guildhall, Llundain. Priododd y newyddiadurwr Griffith Williams yn 1957. Bu yn gweithio fel llyfrgellydd yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]] ac yna'n gynhyrchydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd am flynyddoedd.
 
==Llyfryddiaeth==
 
===Gwaith Marion Eames===
====Nofelau ar gyfer oedolion====
*[[Y Stafell Ddirgel]] [[1969]]
*[[Y Rhandir Mwyn]] [[1972]] - dilyniant i'r Stafell Ddirgel
*[[I Hela Cnau]] [[1978]] - hanes ymfudwyr o Ogledd Cymru i Lannau Mersi ar ddiwedd y 19eg ganrif
*[[Y Gaeaf sydd Unig]] [[1982]] - wedi ei lleoli yng Nghastell y Bere yn ystod teyrnasiad [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]]
*[[Seren Gaeth]] [[1985]] Ysgogiad y nofel hon oedd priodas [[Morfudd Llwyn Owain]] ag [[Ernest Jones]].
*''Y Ferch Dawel'' (1992)
 
====Ar gyfer plant====
*''Sionyn a Siarli'' (1978)
*''Sionyn a Siarli a'r Bws Hud''
*''Duwies y Llyn'' yng Nghyfres Cled (2000)
*''Baner Beca'' (2004) – am [[Helyntion Beca|derfysgoedd Beca]]
 
====Arall====
*''A Private Language?'' (1997) – yn seiliedig ar gyfres o ddarlithoedd ar lenyddiaeth Gymraeg a thraddododd i fewnfudwyr i Wynedd, ar gyfer y Workers' Educational Association. <ref> [http://news.independent.co.uk/people/obituaries/article2426200.ece
''The Independent'' (6 Ebrill 2007)] </ref>
 
===Ffynonellau ac Astudiaethau===
*Prif ffynhonell – ''Portread – Marion Eames'', cynhyrchiad teledu 'Y Bont' ar gyfer S4C (1998)
<references/>
*Richard E Evans, ''Marion Eames'' yn y gyfres ''Llên y Llenor'' (Gwasg Pantycelyn, 2003)
*Branwen Jarvis, 'Pam Nofel Hanesyddol?' yn y gyfrol 'Rhyddid y Nofel'', gol. Gerwyn Williams
 
===Cysylltiadau allanol===
9,149

golygiad