Mandan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 19 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q510048 (translate me)
ffynonellau a manion using AWB
Llinell 7:
Daethant i gysylltiad ag Ewropeaid yn 1738, ac ymwelwyd a hwy gan nifer o fasnachwyr dros y ganrif nesaf. Erbyn dechrau'r [[19eg ganrif]] roedd heintiau ac ymosodiadau gan lwythau eraill wedi gostwng eu nifer yn sylweddol. Wedi haint o'r [[Frech Wen]] yn 1837, roedd eu nifer cyn ised a 125. Oherwydd hyn, ymunasant a llwythau cyfagos yr [[Arikara]] a'r [[Hidatsa]].
 
Dros y degawdau nesaf, lleihaodd tiroedd y llwythau dan bwysau o'r llywodraeth. Sefydlwyd tiriogaeth iddynt yn Fort Berthold, yn wreiddiol o tua 8 miliwn acer (32,000  km²), ond erbyn 1910, roedd ei faint wedi gostwng i tua 900,000 acer (3,600  km²). Yn 1934 unwyd y Mandan yn swyddogol a'r Hidatsa a'r Arikara. Bu farw'r Mandan gwaed-llawn olaf yn 1971; mae'r Mandan presennol o hil gymysg.
 
Cysylltwyd y Mandan a'r chwedl am ddarganfyddiad America gan [[Madog ab Owain Gwynedd]] tua 1170. Dechreuodd straeon gylchredeg am lwyth y Mandan, yn haeru eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion y Cymry a deithiodd i America gyda Madog. Teithiodd [[John Evans (fforiwr)|John Evans]] o'r [[Waunfawr]] yng Ngwynedd i fyny Afon Missouri i chwilio am y Mandan ddiwedd y 18fed ganrif. Cafodd hyd iddynt, ond ni chanfu unrhyw arwydd o eiriau Cymraeg yn eu hiaith.