Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 4 beit ,  6 blynedd yn ôl
ffynonellau a manion using AWB
:''Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd [[Orleans (gwahaniaethu)]].''
 
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth [[Ffrainc]] yw '''Orléans''', sy'n brifddinas weinyddol ''[[département]]'' [[Loiret]] a rhanbarth [[Centre]] hefyd. Gorwedd ar lan [[Afon Loire]] 116  km i'r de-orllewin o [[Paris|Baris]]. Gelwir ei thrigolion yn ''Orléanais''. Mae'n sedd [[esgobaeth]] ers y 4edd ganrif. Enwir dinas [[New Orleans]] (''Nouvelle Orléans'') yn yr [[Unol Daleithiau]] ar ôl Orléans.
 
Yn [[1428]], yn ystod [[y Rhyfel Can Mlynedd]], roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn [[1429]], perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, [[Jeanne d’Arc]], y Dauphin, [[Siarl VII, brenin Ffrainc|Siarl VII]], i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd [[Afon Loire]]. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn [[Reims]] fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
*{{eicon fr}} [http://www.orleans.fr/ Gwefan swyddogol y ddinas]
 
{{eginyn Ffrainc}}
 
[[Categori:Dinasoedd Ffrainc]]
[[Categori:Loiret]]
[[Categori:Centre]]
 
{{eginyn Ffrainc}}
345,787

golygiad