Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
cywiro llithriadau
Llinell 1:
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif. Dyma'r llun cyntaf o'r crwth ac mae'r gwreiddiol i'w weld yn y ''Bibliothèque Nationale, Paris''.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''Chrottachrotta'', ''Hrottahrotta''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant - tri yn y fersiynau cynnar. Caiff ei gannu a genir â [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren; â'ry rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, ac mae cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cherddorioncerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.
 
Daw'r gair o'r hen Frythoneg am "fol Crwmcrwm, beichiog" ("croto"): yr un yw tarddiad "croth" mae'n debyg.<ref>[http://www.indo-european.nl/cgi-bin/response.cgi?root=leiden&morpho=0&basename=\data\ie\celtic&first=581] Matasovic: Etymological lexicon of Proto-Celtic</ref> Mae'n debygol i gaefgefn y crwth fod ar un adeg yn grwm fel bol merch feichiog a'r [[mandolin]]. Defnyddir y gair "crwth" yn Saesneg hefyd, fel benthyciad o'r Gymraeg, ac mae'n un o lond dwrn o eiriau yn yr iaith sydd heb lafariad. Daw'r cyfenwau "Crowder" a "Crowther" o'r gair crythor.
 
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython]]aidd cynnar. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].