Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu delwedd crwth Warrington
3 allan o 4! Boston ar ol...
Llinell 2:
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''chrotta'', ''hrotta''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei gannu â [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn. Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, ac mae cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb.
[[Delwedd:1-ac-crwth Sain Ffagan.jpg|160px|bawd|chwith|Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
[[Delwedd:2-nl-crwth.jpg|160px|bawd|bawd|chwith|Crwth arall o Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
[[Delwedd:Crwth warrington.PNG|160px|bawd|chwith|Crwth Amgueddfa a Galeri Warrington; delwedd drwy ganiatâd.]]
 
Daw'r gair o'r hen Frythoneg am "fol crwm, beichiog" ("croto"): yr un yw tarddiad "croth" mae'n debyg.<ref>[http://www.indo-european.nl/cgi-bin/response.cgi?root=leiden&morpho=0&basename=\data\ie\celtic&first=581] Matasovic: Etymological lexicon of Proto-Celtic</ref> Mae'n debygol i gefn y crwth fod ar un adeg yn grwm fel bol merch feichiog a'r [[mandolin]]. Defnyddir y gair "crwth" yn Saesneg hefyd, fel benthyciad o'r Gymraeg, ac mae'n un o lond dwrn o eiriau yn yr iaith sydd heb lafariad. Daw'r cyfenwau "Crowder" a "Crowther" o'r gair crythor.
Llinell 8 ⟶ 11:
 
== Y Crwth yng Nghymru ==
[[Delwedd:1-ac-crwth Sain Ffagan.jpg|bawd|chwith|Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
Goroesodd pedwar crwth:
# [[Sain Ffagan]]: 'Crwth y Foelas. Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o [[Llanfihangel Bachellaeth|Lanfihangel Bachellaeth]], Sir Gaernarfon
Llinell 16 ⟶ 18:
 
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]
[[Delwedd:Crwth warrington.PNG|bawd|chwith|Crwth Amgueddfa a Galeri Warrington]]
==Cyfeiriadau llenyddol==
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[Pibau Cymreig|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]):
Llinell 63 ⟶ 64:
 
==Dolennau allanol==
* [www.warringtonmuseum.co.uk] Gwefan ''Warrington Museum & Art Gallery''] adalwyd 23 Ebrill 2013.
 
[[Categori:Offerynnau tannau]]