Chwilio a dinistrio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Lleihawyd o 15 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
enw nid ansoddair
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2247281 (translate me)
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
enw nid ansoddair
Llinell 2:
[[Strategaeth filwrol]] a ddefnyddiwyd gan [[yr Unol Daleithiau]] yn ystod [[Rhyfel Fietnam]] oedd '''chwilio a dinistrio''' ({{iaith-en|search and destroy}} neu S&D) a oedd yn sail i ymgyrch [[Byddin yr Unol Daleithiau]] yn [[De Fietnam|Ne Fietnam]]. Danfonwyd milwyr Americanaidd i diriogaeth y gelyn gan ddefnyddio [[hofrennydd]]ion ac byddent yn chwilio am luoedd comiwnyddol y [[Fiet Cong]] neu [[Gogledd Fietnam|Ogledd Fietnam]], lladd y gelyn, ac yna'n encilio'n syth.
 
Mesurwyd llwyddiant y strategaeth trwy [[cyfrif cyrff|gyfrifau cyrff]], hynny yw y nifer o'r gelyn a laddwyd. Yr amcan oedd i beri colledigion enfawr i'r Fiet Cong a byddin Gogledd Fietnam yn raddol trwy [[rhyfela athreuliol|athreuliad]], nes iddynt ildio.<ref>Hess (2009), t. 85.</ref> Er i'r Americanwyr lladd nifer o luoedd comiwnyddol, ni chafodd hyn effaith ar eu gallu i ymladd. Lladdwyd 220,000 ohonynt rhwng 1965 a 1967, ond bu 200,000 o ddynion y flwyddyn yn cyrraedd yr oed consgripsiwn yng Ngogledd Fietnam, ac yr oedd y Fiet Cong yn recriwtio mwy a mwy o bobl o gefn gwlad y De.<ref name=H90>Hess (2009), t. 90.</ref>
 
Nid oedd [[rhyfela confensiynol|tactegau confensiynol]] yr Americanwyr yn addas wrth ymladd [[rhyfel herwfilwrol]] mewn [[jyngl]]oedd Fietnam. Er eu pwyslais ar ennill rhagoriaeth o ran [[mudoledd milwrol|mudoledd]], dechreuwyd tua 90% o'r holl ysgarmesau a brwydrau gan luoedd comiwnyddol, nid lluoedd yr Unol Daleithiau. Oherwydd diffyg ymdrech gan yr Americanwyr a lluoedd De Fietnam i ddiogelu a chadw tiriogaeth ar ôl brwydrau, bu'r Fiet Cong yn aml yn dychwelyd yn syth i ardaloedd wedi i'r Americanwyr gadael.<ref name=H90/>
4,948

golygiad