Martin Walser: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Martin walser 03.jpg|250px|bawd|Martin Walser]]
Awdur cyfoes Almaeneg yw '''Martin Walser''' (ganwyd [[24 Mawrth]] [[1927]]). Yn aml ceir gwrth-arwr yn ei nofelau. EnnillodEnnillodd sawl gwobr Almaeneg yn cynnwys Gwobr Heddwch Frankfurt ym 1998. Fe'i anwyd yn Wasserburg am Bodensee, ar y Bodensee (llyn Constance). Roedd ei rieni yn cadw tafarn ac hefyd yn gwerthu glo. Aeth i'r ysgol uwchradd yn [[Lindau]] o 1938 i 1943 - Daeth yn aelod gorfodol o'r Blaid Nazi yn Ebrill 1944 yn 17 oed ac roedd rhaid iddo wasanaethu yn y [[Wehrmacht]] (byddin yr Almaen) ym mlwyddyn olaf y rhyfel. Wedi'r rhyfel aeth yn ôl i astudio a gwnaeth Radd Hanes a Llên ym Mhrifygolion [[Regensburg]] a [[Tübingen]]. Cwblhaodd thesis ar [[Franz Kafka]] ym 1951 cyn droi yn ysgrifennwr i'r radio efo [[Süddeutscher Rundfunk]].
 
Priodwyd Katharina "Käthe" Neuner-Jehle ym 1950, ac mae ganddynt pedair merch, i gyd yn eithaf enwog ym myd celf yr Almaen. Mae plentyn siawns, mab, Jakob Augstein, ganddo fo hefyd ar ôl perthynas efo'r gyfieithwraig Maria Carlsson.