Urien Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin [[Rheged]], un o deyrnasoedd [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]] oedd '''Urien Rheged''' (c.[[550]]-[[590]]). Fe'i cofir yn y [[traddodiad barddol]] [[Cymraeg]] fel un o brif noddwyr y [[Taliesin]] hanesyddol. Cedwir wyth gerdd i Urien gan Daliesin yn ''[[Llyfr Taliesin]]''. Canodd Taliesin i [[Owain ab Urien|Owain]], fab Urien, yn ogystal. Roedd ganddo dri fab arall, [[Rhiwallon fab Urien]], [[Rhun ab Urien|Rhun]] a [[Pasgen]], ond Owain a'i olynodd. Cyfeirir at Urien yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]] fel 'arweinydd cad Prydain.' Yn ôl [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', cafodd ei lofruddio ar orchymyn ei gynghreiriad Morgant Bwlch, oedd yn genfigennus o'i lwyddiant, ond nid oes cyfeiriad arall at hynny.
 
Yn ôl yr achau a geir yn [[llawysgrif]] Harley 3859, roedd Urien yn fab [[Cynfarch ap Meirchiawn|Cynfarch]] ap Meirchiawn ap Gwrwst ap [[Coel Hen]]. Mae [[Ifor Williams]] yn dangos mai ''Urbgen'', a droes yn *''Urfgen'' ac yno ''Urien'', oedd y ffurf gynharaf ar ei enw. Mae [[Rachel Bromwich]] yn cynnig mai'r enw [[Brythoneg]] *''Orbogenos'' ('Un o enedigaeth freintiedig') yw tarddiad yr enw.
 
Yng Nghanu Taliesin cyferchir Urien fel ''Glyw Reget'' (Arglwydd Rheged). Roedd [[Catraeth]] yn ei feddiant y pryd hynny, cyn iddi syrthio i wŷr [[Northumbria]] (ceir yr hanes yn ''Y Gododdin'', cerdd enwog [[Aneirin]]); 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth) yw Urien yn ôl Taliesin. Molir Urien am ei ddewrder mewn brwydr yng [[Gwên Ystrad|Ngwên Ystrad]] ([[Dyffryn Eden]] efallai) yn erbyn y [[Pictiaid]] (neu'r [[Saeson]]). Sonnir am gyrch yn erbyn [[Manaw Gododdin]] (i'w adennill efallai) a buddugoliaeth yn erbyn Fflamddwyn ym mwrydr [[Argoed Llwyfain]] ('Gweith Argoet Llwyfein'). Ymddengys fod Taliesin wedi canu i'r brenin sawl gwaith dros y blynyddoedd oherwydd mewn rhai cerddi mae Urien ei hun ar flaen y gad ond ar y llaw arall mewn dwy gerdd, diweddarach mae'n debyg, mae ei fab Owain yn arwain ac Urien yn y cefndir.
 
Mae'r portread o Urien fel brenin arwrol sy'n rhadlon i'w ddeiliad ond yn ffyrnig mewn brwydr yn erbyn y gelyn yn gosod y seiliau i'r portread confensiynol o frenhinoedd yn y traddodiad barddol am ganrifoedd.
 
Yn ogystal â Thaliesin, ceir cyfeiriad at fardd o'r enw Tristfardd yn canu i Urien.
 
==Cyfeiriadau==
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991). tt. 516-17
*Ifor Williams (gol.), ''Canu Taliesin'' (Caerdydd, 1960).
 
Llinell 13 ⟶ 16:
 
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Brenhjnoedd Rheged]]
[[Categori:Canu Taliesin]]
[[Categori:Hanes Prydain]]