Ynysoedd Syllan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Llun awyr o Ynys [[Tresco yn Ynysoedd Syllan]] Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:06, 23 Mai 2007

Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o Gernyw yw Ynysoedd Syllan (Saesneg: Isles of Scilly neu'r Scillies). Mae 'na tua 140 o ynysoedd yn y grŵp ond dim ond 5 sydd â phobl yn byw arnyn' nhw, sef St Mary's (y fwyaf), Tresco, St Martin's, St Agnes a Bryher. Arwynebedd yr ynysoedd yw tua 16km² (6 milltir sgwar).

Llun awyr o Ynys Tresco yn Ynysoedd Syllan

Cymerir mantais ar yr hinsawdd fwyn i dyfu blodau cynnar ar gyfer y farchnad Brydeinig. Ceir yn ogystal nifer o ffermydd llaeth a thyfir llysiau hefyd. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn yr haf.


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.