Gwylliaid Cochion Mawddwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tivedshambo (sgwrs | cyfraniadau)
B Translated into English
hen benillion
Llinell 2:
Roedd '''Gwylliaid Cochion Mawddwy''' yn griw o herwyr yn ardal [[Mawddwy]] yn ystod y [[16eg ganrif]] a ddaeth yn enwog mewn llên gwerin.
 
Ystyrid ardal Mawddwy yn diriogaeth lle roedd anhawsterau mawr cadw cyfraith a threfn yn y cyfnod yma, gan ei bod yn ardal ar y ffin, rhwng y [[Mers]] a [[Meirionnydd]]. Yr unig wybodaeth hanesyddol sicr am y Gwylliaid yw eu bod wedi llofruddio Siryf Meirionnydd, y Barwn [[Lewys ab Owain]], neu Lewis Owen, o Gwrt Plas-yn-dre, [[Dolgellau]] ar [[12 Hydref]] [[1555]]. Ymosodwyd ar y Barwn gan griw o’r Gwylliad yn Nugoed Mawddwy, ger [[Dinas Mawddwy]]. Crogwyd amryw o’r gwylliaid am y llofruddiaeth, ac mae marwnadau i Lewys ab Owen gan nifer o feirdd, yn cynnwys [[Gruffudd Hiraethog]]. Yn yr achos llys a ddilynodd y llofruddiaeth dywedwyd mai John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, oedd y gŵr a darawodd yr ergyd farwol.
 
Mae’r gweddill o’r wybodaeth am y Gwylliaid yn dod o ffynonellau megis [[Thomas Pennant]], sy’n adrodd yr hanes wrth groniclo ei ymweliad a Dinas Mawddwy tua [[1770]]. Nid oes sicrwydd a yw’r darn yma o’r stori yn hanes neu chwedl. Yn ôl Pennant yr oedd y Siryf wedi dal nifer o’r Gwylliaid ac am eu crogi, yn eu plith ddau fab i Lowri ferch Gruffudd Llwyd. Roedd un ohonynt yn ieuanc iawn, ac ymbiliodd Lowri wrth y Barwn am drugaredd iddo ef o leiaf, ond gwrthododd Lewys ab Owen wrando, a chrogodd y ddau yngyd a mwy nag 80 o wylliaid eraill. Dywedodd Pennant i Lowri fygwth dialedd ar y Siryf:
:'' … the mother, in a rage, told him (baring her neck) these yellow breasts have given suck to those who shall wash their hands in your blood.''
 
Enwir Lowri ferch Gruffudd Llwyd mewn achos llys yn Sesiwn Fawr y [[Y Bala|Bala]] yn [[1558]] yn dilyn y llofruddiaeth, ond disgrifir hi fel merch ddibriod. Mewn ymgais i’w hachub ei hun rhag y crocbren, dywedodd ei bod yn feichiog, a chadarnhawyd hynny gan reithgor o wragedd priod.
Erys y cof am y Gwylliaid mewn nifer o enwau lleoedd yn yr adral, er enghraifft Llety'r Gwylliaid a Llety'r Lladron ar [[Bwlch Oerddrws|Fwlch Oerddrws]].
 
==Hen benillion==
:'Dyma fryniau Sir Feirionnydd
:Lle mae mwynder a llawenydd,
:Yn eu golwg nid oes galon
:Nac un o'r cuchiog Wylliaid Cochion.'
 
:'Y mae Gwylliaid Llanymawddwy
:Oll yn awychus i fradychu;
:Am lofruddio maent ymhobman
:Hyd i waelod tir Mathafarn.'
(''[[Hen Benillion]]'', gol. [[T. H. Parry-Williams]], rhifau 198, 199)
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 14 ⟶ 26:
 
[[Categori:Hanes Cymru]]
 
[[en:Red Bandits of Mawddwy]]