Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 94 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q4345841 (translate me)
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13:
=== Nid geiriadur mo Wicipedia ===
 
Nid geiriadur mo Wicipedia. Nid yw erthyglau Wicipedia yn :
 
# '''Ddiffiniadau.''' Er y dylai erthyglau ''ddechrau'' gyda diffiniad da a disgrifiad o ''un'' testun, dylent ddarparu mathau eraill o wybodaeth am y pwnc hynny hefyd. Os yw erthygl yn cynnwys diffiniad yn unig, dylid ehangu'r erthygl gyda gwybodaeth wyddoniadurol os yn bosib.
# '''Gofnodion geiriadurol.''' Mae erthyglau gwyddoniadurol am berson, grŵp, lle, peth digwyddiad a.y.b. Weithiau, gall gair neu ymadrodd fod yn bwnc gwyddoniadurol, megis [[Macedonia (terminoleg)]] neu [[athroniaeth]]; fodd bynnag, anaml iawn y bydd erthygl yn cynnwys diffiniadau penodol neu esboniadau defnydd o deitl yr erthygl. Mae erthyglau am bwysigrwydd diwylliannol neu fathemategol [[rhif]]au unigol yn dderbyniol. <br />Os hoffech weld wici ''sydd yn'' eiriadur, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiect [[wikt:Hafan|Wiciadur]]. Dylid trawswicio diffiniadau geiriadurol i'r fan honno.
# '''Ganllaw defnydd, bratiaith a/neu idiomau.''' Croesawir erthyglau disgrifiadol am ieithoedd, tafodieithoedd, neu fathau o fratiaith (megis [[Cockney]]). Serch hynny, ni chroesawir canllawiau ieithyddol ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu'r iaith. <br />Os hoffech weld Wici ''sydd yn'' gasgliad o lawlyfrau, cymrwch olwg ar ein chwaer brosiect [[b:Hafan|Wicillyfrau]]. Dylid trawswicio canllawiau ar gyfer dysgwyr yr iaith i'r fan honno.
 
=== Nid cyhoeddwr syniadau gwreiddiol mo Wicipedia ===